Rhaglen Sgiliau Entrepreneuriaeth

L2 Lefel 2
8 Mehefin 2026 — 26 Mehefin 2026
Un Parêd y Gamlas

Ynghylch y cwrs hwn

Ydych chi’n barod i fynd â’ch menter fechan i’r lefel nesaf, neu droi syniad busnes yn fenter hyfyw?

Mae’r rhaglen hon, sydd wedi’i hariannu’n llawn, yn cynnig cyfle unigryw i wneud hynny. Wedi’i chyflwyno mewn partneriaeth ag arweinwyr diwydiant, mae’n darparu mentora wedi’i deilwra drwy eich paru â gweithiwr proffesiynol profiadol o’ch sector, ochr yn ochr â gweithdai ymarferol sydd wedi’u cynllunio i’ch arfogi â’r sgiliau a’r hyder i lwyddo. Byddwch hefyd yn cael y cyfle i fireinio eich sgiliau cyflwyno, archwilio llwybrau cyllido posibl, a datblygu cynllun busnes sy’n barod i’w ddefnyddio yn y byd go iawn.

Mae’r Rhaglen Entrepreneuriaeth yn gwrs tair wythnos, llawn amser wedi’i chynllunio ar gyfer darpar entrepreneuriaid, perchnogion busnes mewn camau cynnar ac unigolion sy’n dymuno dod â syniad busnes yn fyw mewn amgylchedd strwythuredig a chefnogol.

Drwy gydol y rhaglen, byddwch yn datblygu sgiliau ymarferol, sydd â galw amdanynt ar draws meysydd allweddol yn cynnwys offer digidol, cyllid, deddfwriaeth, gofal i gwsmeriaid, a chynllunio busnes. Bydd cyfranogwyr hefyd yn ennill cymwysterau a gydnabyddir yn genedlaethol:

· Dyfarniad Lefel 2 ILM mewn Arweinyddiaeth a Sgiliau Tîm

· AgoredCymru Lefel 2 Uned: Cyfrifon Cyfrifiadurol

· AgoredCymru Lefel 2 Uned: Rheoli Cyllideb

Mae’r rhaglen yn cyfuno gweithdai ymarferol, siaradwyr gwadd arbenigol, a hyfforddiant cydymffurfio â’r byd go iawn i sicrhau eich bod yn hollol barod i lansio a rheoli eich busnes. Bydd gweithdai cynllun busnes pwrpasol yn eich arwain drwy bob cam datblygu, gan sicrhau eich bod yn gadael gyda map ffordd clir a chyraeddadwy.

Nodwedd allweddol o’r rhaglen yw’r cyflwyniad cynllun busnes terfynnol, lle byddwch yn cyflwyno eich syniad i banel o weithwyr proffesiynol mewn diwydiant. Mae hyn yn darparu adborth gwerthfawr, y cyfle i ehangu eich rhwydwaith, a mynediad posibl at gymorth pellach a chyfleoedd cyllido.

Os ydych chi o ddifri ynghylch dechrau neu ddatblygu busnes, mae’r rhaglen hon y darparu’r wybodaeth, y cymorth, a’r cysylltiadau i’ch helpu i fynd yn eich blaen yn hyderus.

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Caiff y cwrs hwn ei gynnal yn ein Campws Canol y Ddinas o 9.30am tan 4pm, ddydd Llun i ddydd Gwener am dair wythnos.

Cymwysterau 

  • Dyfarniad Lefel 2 ILM mewn Arweinyddiaeth a Sgiliau Tîm

  • Agored Cymru Uned Lefel 2: Cyfrifon Cyfrifiadurol

  • Agored Cymru Uned Lefel 2: Rheoli Cyllideb


Sgiliau Meddal 

  • Cydymffurfedd Ariannol

  • Rhagori mewn Gofal i Gwsmeriaid

  • Datblygu cynllun busnes gyda diwrnod gweithdy

  • Cyfle i gwrdd a rhwydweithio â siaradwyr gwadd o sawl maes yn y diwydiant

  • Technegau cyflwyno

  • Cyfle i gyflwyno eich cynllun busnes i banel o arbenigwyr i gael adborth

Y broses ymgeisio: Ar ôl i chi gyflwyno eich cais, bydd aelod o’r tîm yn cysylltu i’ch gwahodd chi i gyflwyno “Cyflwyniad Cryno” 200-500 o eiriau ar eich busnes ac i gadarnhau y bydd eich gallu ysgrifenedig yn bodloni safonau Corff Dyfarnu’r cymhwyster. 

Gofynion mynediad

Rydych chi'n gymwys ar gyfer y cwrs hwn os:

  • Rydych chi'n 19 oed neu'n hŷn
  • Gallwch chi fynychu pob sesiwn
  • Rydych chi â diddordeb mewn lansio busnes (rhaid bod gennych chi syniad busnes eisoes)
  • Nid ydych chi wedi cofrestru ar gwrs a ariennir gyda CCAF ar hyn o bryd

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

8 Mehefin 2026

Dyddiad gorffen

26 Mehefin 2026

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Lleoliad

Un Parêd y Gamlas
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

CSEP2P04
L2

Cymhwyster

Entrepreneurship Skills Programme

Lleoliadau

Un Parêd y Gamlas
Un Parêd y Gamlas

Un Canal Parade,
Heol Dumballs,
Caerdydd,
CF10 5BF