Addysg a Hyfforddiant i Oedolion

L3 Lefel 3
12 Mai 2026 — 30 Medi 2026
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Ynghylch y cwrs hwn

Camwch i Addysgu gyda'r Dyfarniad Lefel 3 mewn Addysg a Hyfforddiant i Oedolion 

Y Dyfarniad Lefel 3 mewn Addysg a Hyfforddiant yw eich cam cyntaf i’r byd addysgu a hyfforddi oedolion - cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol ac sydd wedi ei ddylunio i ddechrau neu ddatblygu eich gyrfa mewn addysg ar draws amrywiaeth o sectorau. 

P’un a ydych yn breuddwydio am ddarparu hyfforddiant yn y gweithle, arwain mewn addysg i oedolion, neu gamu i’r ystafell ddosbarth am y tro cyntaf, bydd y cwrs hwn yn eich darparu â’r sgiliau a’r hyder i ennyn diddordeb, ysbrydoli a chael effaith wirioneddol.  

Cliciwch ar yr isdeitl isod am ragor o wybodaeth! 

Beth fyddwch chi’n ei astudio

aiff y cwrs hwn ei gyflwyno yn ein Campws Canol y Ddinas o 9.30am - 4pm ar y dyddiadau isod:

Diwrnod 1: Dydd Mawrth 12fed Mai

Diwrnod 2: Dydd Mercher 13eg Mai

Diwrnod 3: Dydd Mawrth 2il Mehefin

Diwrnod 4: Dydd Mercher 3ydd Mehefin


Pam Dewis y Cwrs Hwn?

  • Cwricwlwm Arloesol: Gyda’r anghenion diwydiant a’r arferion addysgu diweddaraf yn sail i’r cwrs hwn, mae’n eich paratoi at lwyddiant o’r diwrnod cyntaf
  • Hyfforddwyr Arbenigol: Byddwch yn hyfforddi gyda thiwtoriaid arbenigol sydd â phrofiad go iawn a brwdfrydedd dros helpu eraill i lwyddo
  • Dysgu Hyblyg: Amserlen rhan amser i gyd-fynd â bywyd prysur
  • Profiad Ymarferol: Enillwch sgiliau ymarferol drwy weithdai rhyngweithiol, gweithgareddau difyr a chyfleoedd i ymarfer eich ffordd o addysgu
  • Cymuned Gefnogol: Ymunwch â rhwydwaith o weithwyr proffesiynol a dysgwyr o’r un anian.

Modiwlau

Drwy gydol y cwrs, byddwch yn ennill sgiliau addysgu hanfodol megis cynllunio a darparu sesiynau dysgu cynhwysol, asesu gwaith a rhoi adborth adeiladol. Ymhlith y modiwlau mae:

  • Deall Rolau, Cyfrifoldebau a Pherthnasoedd mewn Addysg a Hyfforddiant
  • Deall a Defnyddio Dulliau Dysgu ac Addysgu Cynhwysol mewn Addysg a Hyfforddiant
  • Deall Asesiadau mewn Addysg a Hyfforddiant

Asesu

I ennill y cymhwyster hwn, bydd angen ichi fynychu’r sesiynau ar bob dyddiad, cyflwyno asesiad ysgrifenedig erbyn terfyn amser penodol a chyflwyno gwers addysgu fer.

Byddwch yn derbyn arweiniad a chymorth parhaus gan eich tiwtor drwy gydol eich cwrs, gan gynnwys yn ystod eich sesiwn diwtorial a hefyd dros e-bost, Microsoft TEAMS a ffôn.

Mae amser i hunan-astudio yn allweddol i’ch helpu i gwblhau eich aseiniadau a pharatoi at eich asesiad - felly sicrhewch eich bod yn trefnu eich amserlen yn unol â hynny.

Ffïoedd cwrs

Ffi Cwrs: £480.00

Gofynion mynediad

Rhaid i Ffioedd Cofrestru a’r Cwrs gael eu talu wrth i chi gofrestru.

Mae’n rhaid i chi:

  • Fod yn 19 neu’n hŷn
  • Gallu mynychu’r holl sesiynau wyneb yn wyneb
  • Bod yn fodlon cyflwyno i grŵp
  • Gallu neilltuo amser y tu allan i’r cwrs i ysgrifennu Aseiniadau Academaidd

Wrth wneud cais:

  • Uwchlwythwch dystiolaeth o’ch cymhwyster uchaf hyd yn hyn (TGAU, Lefel A, Gradd ayyb).

Ar ôl gwneud cais, bydd holiadur yn cael ei anfon atoch i’w gwblhau. Wedi iddo gael ei gyflwyno, bydd yn cael ei adolygu, a bydd aelod o’r tîm yn cysylltu â chi i adael i chi wybod a yw eich cais wedi bod yn llwyddiannus. Sylwch, ni fydd ceisiadau yn cael eu prosesu hyd nes i’r holiadur gael ei ddychwelyd.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

12 Mai 2026

Dyddiad gorffen

30 Medi 2026

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

CSEAT3P04
L3

Cymhwyster

Adult Education and Training

Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach

Ar ôl gorffen y cwrs hwn, cewch y cyfle i ddilyn astudiaethau pellach neu gyflogaeth yn y sector addysgu a hyfforddi. Gall y cymhwyster hwn arwain at swyddi megis:

  • Cynorthwyydd Addysgu

  • Hyfforddwr
  • Cyfarwyddwr 
  • Aseswr

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Campws Canol y Ddinas,

Heol Dumballs,

Caerdydd,

CF10 5FE