Mae gan Elinor radd mewn economeg, ac wedi cymhwyso i Lefel 7 mewn AD Proffesiynol. Gall ddarparu cymwysterau CIPD Lefel 3 a Lefel 5. Mae gan Elinor bymtheg mlynedd o brofiad yn y diwydiant, yn byw ac yn gweithio mewn amgylchedd rhyngwladol i Airbus a leolir yng Nghasnewydd, Munich, Paris a Toulouse. Cyn ymuno â CCF bu Elinor yn gweithio ym Mhrifysgol Arweinyddiaeth Airbus yn Toulouse fel Arbenigwr Datblygu Arweinyddiaeth: yn dylunio, datblygu a chyflwyno ystod eang o raglenni a seminarau mewnol.
Mae uchafbwyntiau ei gyrfa yn cynnwys: rheoli rhaglen datblygu uwch reolwyr am flwyddyn ar gyfer 150+ o weithwyr o dros 15 o wledydd, a 40 o safleoedd Airbus; ac arwain alldaith ddysgu ryngwladol ar lefel weithredol i Silicon Valley.
Mae Elinor yn hwylusydd naturiol. Nid yn unig daw â phrofiad, ond mae ei chymeriad yn dawel ac yn ddifyr yn yr ystafell ddosbarth. Mae Elinor yn canolbwyntio ar sicrhau bod y sesiynau y mae'n eu dylunio a'u cyflwyno yn llawn egni ac yn ymarferol, trwy amrywiaeth o strategaethau addysgu a dysgu. Mae Elinor yn canolbwyntio ar gefnogi dysgwyr i sicrhau eu bod yn gallu cyflawni hyd at eithaf eu galllu. Gyda’i phrofiad yn Airbus, ynghyd â gweithio a byw yn rhyngwladol, mae gan Elinor enghreifftiau go iawn sy'n dod â damcaniaethau a modelau yn fyw.