Yn rhinwedd ei swydd fel Hyfforddwr Datblygu Arweinyddiaeth a Rheolaeth, mae Helena yn gyfrifol am ddylunio a darparu datrysiadau dysgu a datblygiadau pwrpasol i ddiwallu anghenion sefydliadol, ochr yn ochr â chyflwyno rhaglenni ILM achrededig. Mae Helena yn fedrus wrth hwyluso dysgu difyr a rhyngweithiol ar-lein ac yn yr ystafell ddosbarth. Canolbwyntia ar ddarparu amgylchedd dysgu sy'n galluogi'r dysgwr i brofi cymhelliant, i deimlo’n gynwysedig ac yn ddiogel, gan annog profiad dysgu cadarnhaol a datblygiadol.
Mae gan Helena dros 20 mlynedd o brofiad ym maes addysg gyrfaoedd a datblygu arweinyddiaeth mewn nifer o leoliadau, gan gynnwys Ymgynghoriaeth Gyrfaoedd mewn Prifysgol, Hyfforddiant Arwain ar gyfer elusen a Datblygiad Gweithredol yn y GIG. Mae Helena yn hwylusydd a hyfforddwr empathig, sy’n gweithio’n effeithiol gydag eraill i ddatblygu eu sgiliau, nodi eu hamcanion, a goresgyn heriau i wneud penderfyniadau effeithiol a chyflawni eu llawn botensial.