Cyfarwyddwr Gwasanaethau Proffesiynol a AU

Mary-Ann Hale

Mae Mary-Ann Hale yn arwain y tîm Addysg Uwch a Gwasanaethau Proffesiynol, gan sicrhau fod gwaith y tîm yn cyd-fynd â blaenoriaethau'r sector ac amcanion sefydliadol y Coleg. Mae hi'n cydweithio â phartneriaid prifysgol a chyflogwyr i hyrwyddo dysgu gydol oes, creu llwybrau dilyniant, a darparu atebion arloesol sy'n ymateb i anghenion datblygu'r gweithlu corfforaethol.

Mwy am Mary-Ann

Mae Mary-Ann yn arweinydd dynamig, mentrus ac egnïol  sydd â phrofiad helaeth o arwain, ysbrydoli a datblygu timau sy'n perfformio'n dda. Mae Mary-Ann yn hyfforddwr a mentor cymwysedig gyda chyfoeth o brofiad mewn hyfforddi a mentora unigolion, gan rymuso eraill i wella perfformiad unigol yn benodol. 
Mae gan Mary-Ann hanes o weithio gydag arweinwyr sefydliadau a busnesau i arwain hyfforddiant a dadansoddi anghenion dysgu er mwyn adnabod a delio â bylchau mewn sgiliau. Mae Mary-Ann wedi rheoli dyluniad a darpariaeth sawl rhaglen reolaeth a chyflogadwyedd ar gyfer sefydliadau yn y sector preifat, statudol a'r trydydd sector.