Multiply

Beth yw Multiply?

Mae’r rhaglen Multiply, a ariennir gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, yn cynnig cyrsiau rhifedd a ariennir yn llwyr er mwyn helpu oedolion i wella’u sgiliau rhifedd, magu hyder ac ennill cymwysterau. Caiff y rhaglen ei hanelu at oedolion 19 oed neu hŷn sy’n byw neu’n gweithio ym Mro Morgannwg.

Pa gyrsiau sydd ar gael?

Rydym yn gweithio gyda nifer o bartneriaid i gyflwyno cyrsiau yn y gymuned ar gyfer unigolion, teuluoedd a chyflogwyr er mwyn diwallu anghenion penodol.

Bydd y cyrsiau’n amrywio o gyrsiau i ddechreuwyr i gyrsiau uwch fel TGAU Mathemateg, Cymwysterau Sgiliau Hanfodol, neu gymwysterau cyfwerth, felly bydd modd ichi ddysgu wrth eich pwysau.

Pam y dylech astudio cwrs Multiply?

Nod cyrsiau Multiply yw gwella hyder dysgwyr mewn sgiliau rhifedd. Gall sgiliau rhifedd da esgor ar gyfleoedd swyddi ac arwain at gyflogau uwch neu eich paratoi ar gyfer astudiaeth bellach. Hefyd, byddant o fudd mewn bywyd beunyddiol, fel helpu plant gyda gwaith cartref a chyllidebu arian.

Ar gyfer Unigolion a Theuluoedd

Rhaglen Teuluoedd yn Dysgu Gyda’i Gilydd CCAF

Mae Rhaglen Teuluoedd yn Dysgu Gyda’i Gilydd CCAF yn cynnig nifer o gyrsiau i gynorthwyo unigolion a theuluoedd gyda sgiliau rhifedd. Cânt eu cyflwyno mewn amgylchedd hwyliog a hygyrch yn eich ardal.

Addysg Sylfaenol i Oedolion

Hefyd, mae rhai o’n cyrsiau Addysg Sylfaenol i Oedolion mewn sgiliau Mathemateg yn cael cymorth gan Multiply. Gallwch weld ein holl gyrsiau Addysg Sylfaenol i Oedolion isod.

Sgiliau ar gyfer Cyflogaeth

Pa un a ydych yn hunangyflogedig, yn rheoli tîm neu’n gweithio gyda chyllidebau fel agwedd ar eich rôl, mae gennym gyrsiau sgiliau ariannol, a ariennir yn llwyr trwy gyfrwng Multiply, i’ch cynorthwyo yn eich gyrfa.

Ar gyfer Cyflogwyr

Mae Multiply ar gael i gyflogwyr hefyd, er mwyn cynorthwyo i asesu a hybu lefel sgiliau eich gweithlu. Mae cyrsiau pwrpasol undydd neu hanner diwrnod ar gael, a bydd y sesiynau’n cael eu teilwra ar sail y sgiliau allweddol a bennir gan gyflogwyr a’r sgiliau allweddol y mae’n ofynnol i’w gweithwyr feddu arnynt i fod yn gymwys yn eu rôl. Cliciwch isod i gael rhagor o wybodaeth.

Cyrsiau Pwrpasol i Gyflogwyr