Coleg Caerdydd a’r Fro yn ymuno â Santander i gyflwyno rhaglen Gymraeg i’w staff

9 Gor 2018

Mae Coleg Caerdydd a’r Fro a Santander UK wedi dod at ei gilydd i gyflwyno rhaglen Gymraeg bwrpasol i weithwyr ar draws canghennau’r banc yng Nghymru.

Ers 2015, mae Santander UK wedi bod yn gweithio’n agos â Chomisiynydd y Gymraeg i ehangu’r gwasanaethau mae’n eu cynnig yn y Gymraeg er mwyn cefnogi cymunedau lleol yng Nghymru yn well.

Mae tîm CCAF ar gyfer Busnes yn cefnogi Santander UK i lansio cyfle newydd ar gyfer ei weithwyr, i groesawu’r Gymraeg a’i hymgorffori yn ei wasanaethau ledled ei rwydwaith o ganghennau. Mae’r Coleg wedi cynllunio a chyflwyno cam cyntaf rhaglen Cymraeg i ddechreuwyr bwrpasol ar draws canghennau Santander yn Ne Cymru.

Mae’r rhaglen yn cael ei chyflwyno dros gyfnod o bum mis drwy gyfrwng cyfres o sesiynau wyneb yn wyneb lle gall cyflogeion ddysgu ymadroddion a geiriau Cymraeg yn ymwneud â gwasanaethau bancio, fel eu bod yn gallu cefnogi cwsmeriaid yn y Gymraeg pan fo hynny’n fuddiol. Dechreuodd y sesiynau ym mis Mawrth eleni ar gyfer 22 o Gyfarwyddwyr Cangen a Rheolwyr Cangen sydd â mynediad hefyd nawr at adnodd hyfforddi ar-lein sydd wedi’i ddatblygu o’r newydd i gefnogi eu dysgu ac annog siarad Cymraeg yn eu canghennau. Bydd y sesiynau’n parhau drwy gydol yr haf.

Dywedodd Luke Davies, Rheolwr Datblygu Busnes yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro: “Mae’n bleser cael gweithio gyda Santander UK ar y prosiect yma. Mae’n rhoi llawer iawn o foddhad, clywed bod yr hyfforddiant pwrpasol yma’n cael effaith bositif ar unwaith ar ei weithwyr a’i gwsmeriaid.

“Rydyn ni wedi cydweithio’n agos â Santander i gynnig nifer o opsiynau dysgu, gan gynnwys hyfforddiant wyneb yn wyneb ac adnodd e-ddysgu i’w gwneud yn haws i gydweithwyr Santander gynnwys y dysgu ochr yn ochr ag ymrwymiadau gwaith ac ymrwymiadau eraill.”

Dywedodd Rheolwr Rhanbarthol Santander UK ar gyfer De Cymru, Christian Dalton: “Mae’r iaith Gymraeg yn un o drysorau Cymru ac yn rhan o’r hyn sy’n diffinio Cymru fel cenedl. Mae’n bwysig ein bod ni yn Santander yn adlewyrchu’r cwsmeriaid rydyn ni’n eu gwasanaethau drwy alluogi i’n cydweithwyr ni yng nghanghennau Cymru ddysgu a siarad Cymraeg er budd ein cwsmeriaid ni a’r gymuned leol.”

Cafwyd adborth eithriadol bositif eisoes gan bobl sydd wedi cymryd rhan yn y cynllun ac mae’n dilyn mentrau eraill gan Santander i gefnogi siaradwyr Cymraeg, fel arwyddion dwyieithog mewn canghennau yng Nghymru a hefyd opsiwn Cymraeg yn y peiriannau codi arian ledled y DU.

Dywedodd Samantha Marshall, Cyfarwyddwr Cangen Santander ym Mhontypridd: “Yn wahanol i lawer o fy nghydweithwyr i, ’wnes i ddim dysgu Cymraeg yn yr ysgol ac er fy mod i wedi byw yng Nghymru ers 20 mlynedd, prin iawn yw fy ngeirfa i yn yr iaith. Er fy mod i’n cael anhawster gyda’r ynganu, rydw i wir wedi mwynhau’r ddau sesiwn Cymraeg cyntaf ac wedi dod yn ôl i’r gangen a rhoi cynnig ar yr ymadroddion gyda fy nghydweithwyr i sy’n siarad Cymraeg.

“Rydw i hyd yn oed wedi cael fy nghyflwyno i gwsmer sy’n siarad Cymraeg oedd yn falch iawn o fy nghlywed i’n dweud ychydig eiriau yn y Gymraeg. Roedd yn falch iawn hefyd o glywed am y rhaglen mae Santander yn ei chynnal.”