Myfyrwyr CAVC y cyntaf yng Nghymru i fod yn Ymatebwyr Cyntaf Cymunedol

11 Ion 2019

Criw o ddysgwyr HND Gwasanaethau Cyhoeddus ac Argyfwng yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro yw’r myfyrwyr coleg cyntaf i wasanaethu fel Ymatebwyr Cyntaf Cymunedol gyda Gwasanaeth Ambiwlans Cymru.                     

Mae’r dysgwyr wedi’u lleoli ar gampws y Barri y Coleg ac ar Gampws Chwaraeon Rhyngwladol Caerdydd yn Lecwydd. Byddant yn ymateb i’w cymunedau lleol.

Mae pob myfyriwr wedi mynd drwy broses hynod fanwl i ennill y teitl Ymatebwr Cyntaf Cymunedol. Aethant ati i lenwi ceisiadau, mynd i gyfweliadau, cael archwiliad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS), deg awr o astudio cyn y cwrs a 40 awr o hyfforddiant meddygol uwch.                          

Roedd yr hyfforddiant hwn yn rhoi sylw i themâu fel rheoli gwrthdaro, diogelu, anatomeg a ffisioleg, therapi ocsigen, diffibrilio, rheoli’r llwybr anadlu a gwaedu catastroffig.          

Bydd y myfyrwyr yn ymateb o’u campysau yn y Barri ac yn Lecwydd, gan ateb galwadau 999 ar rota ochr yn ochr â’u hastudiaethau. Mae’r dysgwyr i gyd wedi’u hyfforddi’n llawn a’u hyswirio a byddant yn gwisgo iwnifform aelodau Gwasanaeth Ambiwlans Cymru.

Dywedodd Darlithydd Gwasanaethau Cyhoeddus CAVC, Tom Jones: “Does dim adnodd mwy gwerthfawr na bywyd rhywun a bydd ein myfyrwyr HND ni’n profi beth mae wir yn ei olygu i wasanaethu’r gymuned mewn sefyllfaoedd real o fywyd neu farwolaeth. Bydd hyn yn eu helpu nhw i ymgolli’n llwyr mewn bywyd fel rhan o wasanaeth cyhoeddus.”

Dywedodd Deon Addysg Uwch Coleg Caerdydd a’r Fro, Leon Annett: “Mae hwn wedi bod yn gyfle rhagorol i’n myfyrwyr Addysg Uwch ni ennill cymwysterau unigryw sydd nid yn unig yn galluogi iddyn nhw gefnogi’r gymuned leol, ond hefyd gwella eu datblygiad gwirfoddol proffesiynol ymhellach, a chynyddu eu sgiliau cyflogadwyedd. Mae hwn wedi bod yn ychwanegiad eithriadol werthfawr at y cwrs.”

Dywedodd Jason Sadler, Hyfforddwr Ymatebwyr Cyntaf Cymunedol gydag Ymddiriedolaeth y GIG Gwasanaeth Ambiwlans Cymru: “Fe hoffen ni ddiolch i’r dysgwyr o Goleg Caerdydd a’r Fro a’u llongyfarch nhw’n fawr. Mae bod yn Ymatebwr Cyntaf Cymunedol yn rôl heriol ond mae’n rhoi llawer iawn o foddhad ac mae bod y criw cyntaf o goleg yng Nghymru i wneud hyn yn gyflawniad anhygoel.

“Mae ymatebwyr cyntaf yn rhan hanfodol o beth rydyn ni’n ei wneud yn WAST a pho fwyaf o fywydau y gallwn ni eu hachub, y gorau.”