Mae myfyriwr Gosodiadau Trydan yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro, Elliott Dix, wedi cael ei goroni fel prentis trydan gorau Cymru.
Enillodd Elliott, sy’n ddwy ar bymtheg oed ac yn dod o’r Barri, rowndiau rhagbrofol cystadleuaeth Prentis Trydan y Flwyddyn y DU.
“Rydw i’n falch o fod wedi cymryd rhan mewn cystadleuaeth mor fawr ac fe gefais i ganlyniad gwell na’r disgwyl, oedd yn dda,” dywedodd Elliott.
“Roeddwn i’n eithaf nerfus. Doedd e ddim yn ofnadwy ond roedd e’n heriol, gweld pobl sy’n hŷn na chi’n gwneud yr un peth a chystadlu’n eu herbyn nhw. Efallai bod nhw wedi bod yn gwneud hyn ers blynyddoedd a dim ond yn fy ail flwyddyn ydw i, felly roedd hynny’n fy ngwneud i’n nerfus.”
Enillodd Elliott gasgliad o dŵls a bydd yn mynd ymlaen i gymryd rhan yn rownd derfynol Prentis Trydan y Flwyddyn y DU ym mis Mawrth. Roedd yn ddiolchgar i’w gyflogwr ac i Goleg Caerdydd a’r Fro am y gefnogaeth maent wedi’i rhoi iddo yn ystod y gystadleuaeth hyd yma.
“Rydw i’n gweithio i Woodlands Electrical ac maen nhw wedi bod yn gefnogol iawn, gan roi amser i ffwrdd i mi ymarfer a gadael i mi ddod i’r coleg os oeddwn i angen hynny,” dywedodd Elliott.
“Mae’r Coleg wedi bod yn gefnogol hefyd. Mae fy nhiwtor i, Geoff Shaw, wedi bod ar gael ar benwythnosau er mwyn i mi ymarfer. Mae Gosodiadau Trydan yn grefft dda. Bydd y brentisiaeth yma a chymryd rhan yn y gystadleuaeth o help mawr – yn enwedig os bydd yn mynd y ffordd iawn!”