Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi cyrraedd rhestr fer tair Gwobr Addysg Bellach (AB) Tes mawr eu bri, gan roi'r coleg ymhlith goreuon y wlad.
Mae'r Coleg wedi cyrraedd y rhestr fer mewn categorïau sy'n amrywio ar draws gwaith CAVC: Y Fenter Addysgu a Dysgu Orau, Cyfraniad at y Gymuned Leol a Defnydd Eithriadol o Dechnoleg i Wella Addysgu, Dysgu ac Asesu.
Llwyddodd CAVC i gyrraedd rhestr fer y Categori Addysgu a Dysgu Gorau am ei ffocws ar brofiadau dysgu go iawn i ddysgwyr yn hytrach na phrofiadau realistig yn unig. Mae gweithio gyda chyflogwyr lleol i sicrhau bod y ddarpariaeth yn bodloni anghenion sgiliau lleol a rhoi profiadau gwaith gwerth chweil i fyfyrwyr wrth galon waith y Coleg.
Bu i'r pwyslais hwnnw ar ddarparu i'r gymuned leol helpu CAVC i gyrraedd y rhestr fer ar gyfer y wobr Cyfraniad at y Gymuned Leol. Mae cynlluniau megis y Rhaglen Prentisiaethau Iau lwyddiannus sy'n anelu at atal unigolion 14 i 16 oed rhag gadael addysg, Teuluoedd yn Dysgu Gyda'i Gilydd a chynlluniau i ddod â gwasanaethau Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (ESOL) ynghyd mewn un hwb a chodi ymwybyddiaeth iechyd ymhlith cymunedau o bobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn rhan fawr o waith y Coleg.
Mae Cyfoethogi Dysgu trwy Dechnoleg (TEL) wedi'i fewnosod ym mywyd CAVC. Llwyddodd y Coleg i gyrraedd rhestr fer y Wobr Tes am Ddefnydd Eithriadol o Dechnoleg i Wella Addysg, Dysgu ac Asesu am ei gred o sicrhau bod gan staff y sgiliau o'r radd flaenaf i rymuso dysgwyr i ddod yn arloeswyr yfory.
Dywedodd Kay Martin, Pennaeth Coleg Caerdydd a'r Fro: "Anrhydedd yw cyrraedd rhestr fer nid yn unig un ond tair Gwobr AB Tes mawr eu bri. Mae'r ffaith bod y gwobrau hyn yn pontio ystod eang o weithgareddau'r Coleg yn adlewyrchu faint o waith caled sy'n digwydd gan bawb yn y Coleg i fodloni anghenion heddiw ac yfory y cymunedau mae'n eu gwasanaethu, ac rwy'n falch dros ben o'u llwyddiannau."
(Credyd llun: Tes)