Coleg Caerdydd a’r Fro ar y rhestr fer ar gyfer pum Gwobr AB Tes anrhydeddus

23 Ebr 2021

Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer pum Gwobr Addysg Bellach Tes anrhydeddus ledled y DU, gan ei osod ymhlith y colegau gorau yn y wlad.

Mae'r Coleg wedi cyrraedd y rhestr fer mewn categorïau sy'n amrywio ar draws ei waith: Coleg AB y Flwyddyn; Y Fenter Addysgu a Dysgu Orau; Cefnogaeth Orau; Ymgysylltu â Chyflogwyr ac Arwr WorldSkills.

Yn dilyn blwyddyn gwbl ddigynsail, mae CAVC wedi parhau i gefnogi dysgwyr, gwella dyheadau a datblygu unigolion medrus a chyflogadwy. Gan weithio'n helaeth gyda dysgwyr a chyflogwyr, mae'r Coleg wedi goresgyn cyfnod heriol.

Mae ei ddefnydd arloesol o TG yn ystod y cyfyngiadau symud a chyfyngiadau COVID-19 wedi arwain at ei roi ar y rhestr fer ar gyfer y Fenter Addysgu a Dysgu Orau. Gweithiodd staff ar draws y Coleg yn ddiflino i sicrhau bod y dysgwyr yn parhau i ddatblygu a dysgu ar-lein fel bod CAVC yn parhau 'ar agor'.

Arweiniodd ffocws traws-Goleg ar les myfyrwyr a'i waith diogelu at fod ar y rhestr fer yn y categori Cefnogaeth Orau, tra bod ei waith gyda chwmnïau ar draws pob sector fel GoCompare, Deloitte, Hafod a'r Adran Gwaith a Phensiynau wedi sicrhau enwebiad ar gyfer y Wobr Ymgysylltu â Chyflogwyr.

Mae gwaith y timau Seibrddiogelwch a TG yn cefnogi myfyrwyr CAVC i gystadlu a llwyddo mewn cystadlaethau sgiliau, gan gynnwys myfyrwyr yn cynrychioli'r DU a Rowndiau Terfynol WorldSkills yn Rwsia, wedi sicrhau lle ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr Arwr WorldSkills.

Yn olaf, mae'r ffordd mae pawb yn CAVC yn gyffredinol wedi dod at ei gilydd i gefnogi, datblygu ac addysgu ei ddysgwyr drwy'r pandemig wedi sicrhau enwebiad yn y categori cyffredinol Gwobr Coleg Addysg Bellach y Flwyddyn.

Mae gan CAVC enw da iawn am lwyddo yng Ngwobrau AB Tes, gan ennill llynedd yn y categorïau Defnydd Eithriadol o Dechnoleg ar gyfer Gwella Addysgu, Dysgu ac Asesu a Chyfraniad at y Gymuned Leol. Bydd y gwobrau rhithwir eleni yn cael eu cynnal ar 28ain Mai.

Dywedodd Dirprwy Bennaeth Coleg Caerdydd a'r Fro Sharon James: "Mae'n gymaint o anrhydedd cael ein rhoi ar y rhestr fer nid ar gyfer un, ond pump, o Wobrau AB Tes. Mae'r ffaith bod y gwobrau rydym wedi cyrraedd y rhestr fer ar eu cyfer yn cwmpasu ystod o weithgareddau'r Coleg yn adlewyrchu sut mae pawb yn CAVC wedi gweithio mor galed o dan amgylchiadau eithafol i sicrhau bod anghenion ein dysgwyr ar hyn o bryd ac yn y dyfodol yn cael eu diwallu ac rwy'n hynod falch ohonynt i gyd."