Coleg Caerdydd a’r Fro yn ymuno â chyflogwyr lleol i greu cenhedlaeth newydd o weithwyr FinTech

1 Ebr 2022

Mae Coleg Caerdydd a’r Fro wedi ymuno â FinTech Cymru a phrif gyflogwyr gwasanaethau ariannol lleol, gan gynnwys Admiral, Deloitte, Hodge Bank a Principality, i greu rhaglenni hyfforddi unigryw, llwybr cyflym sydd wedi’u cynllunio i ddiwallu’r angen cynyddol am bobl fedrus i lenwi swyddi gwag yn FinTech.

Mae FinTech – Technoleg Ariannol – yn golygu bod busnesau’n defnyddio technoleg i wella gwasanaethau ariannol neu eu gwneud yn awtomatig. Yn ddiwydiant sy'n tyfu'n gyflym, mae gan FinTech fanteision i fusnesau a chwsmeriaid fel ei gilydd.

Mae CAVC wedi gweithio gyda chyflogwyr, gan gynnwys Admiral, Deloitte, Hodge Bank a Principality, i ddatblygu’r rhaglenni hyfforddi llwybr cyflym arloesol sydd wedi’u cynllunio i roi i bobl y sgiliau sydd arnynt eu hangen i lenwi swyddi gwag a hybu gweithlu FinTech yn y Brifddinas-Ranbarth.

Wedi'u hanelu at raddedigion, neu'r rhai sydd â sgiliau perthnasol ac angerdd am TG a chodio ac sydd eisiau ailsgilio neu uwchsgilio i ymuno â'r diwydiant FinTech, mae'r rhaglenni hyfforddi llwybr cyflym am ddim hefyd yn cynnwys lwfans hyfforddi o £150 yr wythnos ar gyfer pob cyfranogwr. Mae Admiral, Deloitte, Hodge a Principality wedi ymrwymo i gyfweld pawb sy'n cwblhau'r modiwlau gofynnol ar gyfer swyddi FinTech yn eu cwmni.

Mae'r rhaglenni hyfforddi'n cynnwys FinTech ar gyfer datblygwyr pen blaen neu gefn, ac Industry 4.0, sy'n meithrin sgiliau peirianneg meddalwedd a datblygu gwefannau’r cyfranogwyr, sy'n cael eu cydnabod gan sefydliadau gweithgynhyrchu a meddalwedd diwydiannol.

Yn gyfle gwych i unrhyw un roi hwb i'w obeithion gyrfaol yn y sector FinTech sy'n ehangu, bydd y cyrsiau datblygwyr yn rhoi gwybodaeth arbenigol i bobl am ystod o ieithoedd rhaglenni, gwasanaethau cwmwl a rheoli prosiectau. Mae Industry 4.0 wedi'i anelu at bobl sydd eisiau ehangu i ddatblygu meddalwedd yn y diwydiannau gweithgynhyrchu neu beirianneg.

Mae’r rhaglenni hyfforddi yn rhan o Academi Codio CAVC, ac yn addas ar gyfer unrhyw un sydd wedi gadael yr ysgol sawl blwyddyn yn ôl efallai ac sydd wedi cael sawl swydd ers hynny, myfyriwr sydd wedi graddio yn ddiweddar ac sy’n cael anhawster dod o hyd i’r swydd gywir, neu rywun sy’n awyddus i feithrin ei hyder a dechrau eto ar ôl seibiant gyrfaol estynedig.

Dywedodd Alan Patefield-Smith, Prif Swyddog Gweithredol Admiral: “Mae Admiral wedi ymrwymo i weithio gyda sefydliadau sy’n darparu cyfleoedd i bobl yng Nghymru ddatblygu sgiliau technoleg, gan alluogi iddyn nhw symud i swyddogaethau addas. Mae’r Academi Codio yn parhau i fod yn ffynhonnell wych o dalent dechnolegol ar gyfer busnesau fel ein un ni.”

Dywedodd Jonathan Evans, Pennaeth Peirianneg Hodge Bank: “Mae Hodge wrth ei fodd o fod yn rhan o’r Academi Codio! Mae angen parhaus am gymuned dechnolegol hynod fedrus yn Ne Cymru y mae busnesau fel ein un ni yn dibynnu arni. Bydd yr Academi Codio yn help mawr i ddarparu cyflenwad cyson o dalent dechnolegol.”

Dywedodd Rich Forsyth, Pennaeth Datblygu a Gweithrediadau yn Deloitte: “Yn Deloitte rydyn ni’n gweithio’n galed i gau’r bwlch digidol ac rydyn ni’n cydnabod y galw enfawr am dalent dechnolegol yn Ne Cymru. Rydyn ni wedi ymrwymo i gefnogi gyrfaoedd cynnar gyda’r Academi Codio ac mae hon yn fenter wych a fydd yn creu cyfleoedd gwirioneddol i bobl ddatblygu sgiliau y mae eu gwir angen yn y maes digidol a thechnoleg.”

Dywedodd Sarah Williams-Gardener, Prif Swyddog Gweithredol FinTech Cymru: “Mae FinTech Cymru yn falch iawn o fod yn rhan o fenter sy’n rhoi cyfle i ddysgwyr uchelgeisiol sy’n hoffi Codio roi hwb i’w sgiliau, rhywbeth sy’n hanfodol i gefnogi llwybr twf ffyniannus ecosystem FinTech Cymru. Mae ein haelod-sefydliadau wedi helpu i lunio llwybr i uwchsgilio pobl ar gyfer y sector FinTech, ac mae'r addewid o gyfweliad yn cynnig cyfle gyrfaol cyffrous iawn i bobl ifanc ffynnu, ac mae'n ddull arloesol yr ydyn ni’n falch iawn o’i gefnogi."

Dywedodd Dirprwy Bennaeth Coleg Caerdydd a’r Fro, Sharon James: “Yn CAVC rydyn ni wedi ymrwymo i weithio gyda chyflogwyr lleol i ddiwallu anghenion diwydiant heddiw ac yn y dyfodol. Dyma pam ein bod ni’n falch iawn o weithio gydag Admiral, Deloitte, Hodge Bank, Principality a FinTech Cymru, ochr yn ochr â chyflogwyr eraill, i helpu i greu cyflenwad o dalent ar gyfer sector FinTech y Brifddinas-Ranbarth sy’n datblygu’n gyflym, gan ddarparu cyfleoedd i bobl ddysgu sgiliau y mae mwy a mwy o alw amdanyn nhw.”