Coleg Caerdydd a’r Fro yn nodi Wythnos Genedlaethol Gyrfaoedd Gwyrdd gyda ffair gyrfaoedd arbennig

20 Tach 2024

Nododd tîm Gyrfaoedd a Syniadau Coleg Caerdydd a’r Fro yr Wythnos Genedlaethol Gyrfaoedd Gwyrdd eleni gyda ffair gyrfaoedd arbennig, gan dynnu sylw at fanteision gweithio yn y diwydiannau gwyrdd a sero net.

Soniodd y siaradwyr gwadd am yr holl gyfleoedd swyddi gwahanol sydd ar gael yn y diwydiannau gwyrdd a sero net, a chafodd y dysgwyr gyfle i ryngweithio â chyflogwyr gan gynnwys Realis Atkins, Galliford Try a LCB Construction. Roedd y tîm Dysgu a Gyfoethogir gan Dechnoleg hefyd yn cefnogi, gyda phrofiadau Realiti Rhithwir ar yrfaoedd cysylltiedig.

Dywedodd Mohamed Faleh, sy’n ddysgwr gwaith saer: “Roedd y Ffair Gyrfaoedd Gwyrdd yn anhygoel – mae llawer o gyfleoedd. Roedd yn braf siarad â’r cyflogwyr a chael gwybod am chwilio am waith neu brentisiaeth.”

Dywedodd cyd-ddysgwr Gwaith Saer, Ryan Cann: “Roeddwn i’n meddwl bod y Ffair yn dda iawn. Roedd yn braf gweld pobl yn cynnig cyfleoedd i bobl yn y sector masnach.”

Dywedodd Danny, Prentis Iau Adeiladwaith Aml-Grefftau: “Roedd yr hyn roedd y siaradwyr yn sôn amdano yn ddiddorol ac roeddwn i’n teimlo y gallwn i ystyried mynd i mewn i’r hyn maen nhw’n ei wneud. Roedd yna lawer o wybodaeth ac fe gefais i ddigon i wybod beth rydw i eisiau bod yn ei wneud, ble gallwn i fynd a beth allwn i ei wneud.”

Dywedodd Scott Davis, Rheolwr Partneriaethau a Gwerth Cymdeithasol yn LCB Group: “Fe hoffwn i ddiolch i’r tîm Gyrfaoedd a Syniadau am drefnu’r digwyddiad Gyrfaoedd Gwyrdd yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro. Fe ddaeth presenoldeb da iawn eleni gyda myfyrwyr sy'n dilyn amrywiaeth o gymwysterau ac a oedd yn awyddus i ofyn cwestiynau.

“Gobeithio ei fod yn gipolwg ar fyd ôl-osod a’r hyn mae’n ei gynnig iddyn nhw fel dewis gyrfa. Rydyn ni’n edrych ymlaen at gefnogi digwyddiadau tebyg yn y dyfodol.”

Dywedodd Dawn Jevons, Rheolwr Cymunedol ac Effaith Gymdeithasol Rhanbarthol gyda Galliford Try: “Roedden ni yn Galliford Try yn falch iawn o fynychu Wythnos Gyrfaoedd Gwyrdd 2024 yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro, lle cawson ni gyfle i gwrdd â myfyrwyr angerddol a thalentog sy’n cynrychioli dyfodol y diwydiant adeiladu.”

Mae CCAF wedi ymrwymo i ddarparu hyfforddiant o'r radd flaenaf yn y diwydiannau gwyrdd a sero net. Mae gan y Coleg Ganolfan Dechnoleg Werdd ar Gampws Canol y Ddinas ac, yn ddiweddar, cyhoeddodd fod ei gynlluniau ar gyfer Canolfan Dechnoleg Uwch (ATC) ym Maes Awyr Caerdydd wedi cael eu cymeradwyo gan Gyngor Bro Morgannwg.

Bydd yr ATC yn cynnwys cyfleuster gweithgynhyrchu cyfansoddion uwch, labordai roboteg a mecatroneg o’r radd flaenaf a “thŷ sgiliau gwyrdd”. Bydd y myfyrwyr yn defnyddio Realiti Rhithwir a Deallusrwydd Artiffisial a bydd ganddynt fynediad at brototeipio cyflym, argraffwyr metel 3D a dronau ymreolaethol i gefnogi eu hastudiaethau. Bydd y myfyrwyr moduro’n gweithio gyda cherbydau trydan a hydrogen.