Yr wythnos hon, arwyddwyd y contract ar gyfer buddsoddiad £119m Coleg Caerdydd a’r Fro yn nyfodol sgiliau Bro Morgannwg, gan weithio mewn partneriaeth â Chyngor Bro Morgannwg a Llywodraeth Cymru.
Bydd y prosiect £119m hwn yn gweld dau gampws newydd yn cael eu hadeiladu yn y Fro - campws cymuned Addysg Bellach (AB) yng nghanol Glannau’r Barri, gyda mynediad hawdd at drafnidiaeth gyhoeddus; a Chanolfan Technoleg Uwch flaenllaw ym Maes Awyr Caerdydd, gerllaw’r Ganolfan Ryngwladol ar gyfer Hyfforddiant Awyrofod (ICAT) adnabyddus CCAF.
Mae disgwyl i waith ddechrau ar y ddau gampws yn ystod yr haf, gyda dyddiad agor ym mis Awst 2027 i’r ddau.
Bydd y Ganolfan Technoleg Uwch 13,000 metr sgwâr yn cynnig lle i bron i 2,000 o ddysgwyr a dros 100 o staff. Bydd cyrsiau ar y campws hwn yn canolbwyntio ar gefnogi datblygiad economaidd a bodloni anghenion sgiliau cyflogwyr mewn technolegau uwch a sgiliau gwyrdd - ar gyfer y technolegau adnewyddadwy newydd a'r sgiliau ôl-osod sydd eu hangen i gyrraedd targedau Carbon Sero Net.
Bydd Campws 6,000 metr sgwâr Glannau’r Barri yn gwasanaethu i hyd at 1,000 o ddysgwyr a bron i 80 o staff. Yn ogystal â dosbarthiadau yn cynnig darpariaethau ar draws ystod o gyrsiau, gan gynnwys cyrsiau i oedolion sydd awydd datblygu sgiliau newydd neu ddatblygu eu gyrfaoedd, bydd y campws hwn yn cynnwys unedau gweithredol ar y stryd gyda Salon Gwallt a Harddwch a Bistro/Bwyty a fydd yn agored i’r cyhoedd ac yn cael ei redeg gan fyfyrwyr. Yn ogystal, bydd yna deras gardd awyr agored, ystafelloedd dosbarth ac ystafelloedd TG, ardal fwyta dan do yn yr awyr agored ac iard gyda lawnt a mannau i eistedd.
Fel y prosiect Addysg Bellach Sero Net cyntaf yng Nghymru, bydd y ddau gampws yn amgylcheddau dysgu sy’n wirioneddol gynaliadwy ac a fydd yn dod â buddion datblygiad economaidd a chymunedol sylweddol i Chwarter Arloesi Glannau’r Barri a Pharth Menter Saint Tathan a Maes Awyr Caerdydd.
Mae'r prosiect hwn yn cael ei gynnal drwy Raglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru.
Dywedodd Prif Weithredwr Grŵp Coleg Caerdydd a'r Fro, Mike James: “Rydym yn falch o gymryd y cam ymlaen hwn yn ein buddsoddiad mewn addysg a hyfforddiant ar draws y rhanbarth.
“Pleser o’r mwyaf yw cael dweud ein bod yn cyflawni ar ein hymrwymiad i ddarparu amgylcheddau addysgu a dysgu o'r radd flaenaf ar gyfer dysgwyr a'r gymuned ym Mro Morgannwg. Bydd Campws y Glannau a’r Ganolfan Technoleg Uwch hefyd yn sicrhau darpariaeth ar gyfer anghenion cyflogwyr ar hyd a lled y Fro a'r Brifddinas Ranbarth ehangach, nawr ac yn y dyfodol.
“Byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru, Cyngor Bro Morgannwg a Chwmni Partneriaeth Addysg Cymru i sicrhau llwyddiant diamheuol y prosiect hwn."
Dywedodd Geraint Evans, Cadeirydd Corfforaeth y Grŵp CCAF: “Pan ddaeth Mike a minnau ynghyd am y tro cyntaf yn 2011 pan ffurfiwyd Coleg Caerdydd a’r Fro, fe wnaethom gytuno y byddwn yn adeiladu dau gampws newydd ym Mro Morgannwg. Bellach, yn 2025, rydym o’r diwedd wedi cyrraedd y cam hwnnw.
“Mae’n gyfnod cyffrous iawn i’r Coleg, y gymuned, a’r busnesau a wasanaethwn. Mae'n cynrychioli cam mawr ymlaen a fydd yn dod â buddion economaidd a chymuned gynaliadwy i’r Fro am flynyddoedd i ddod.”
Dywedodd Vikki Howells, Gweinidog Addysg Bellach ac Addysg Uwch: “Mae’n anhygoel bod Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru yn dod â’r ddau gampws newydd hyn i Fro Morgannwg. Bydd campws Glannau’r Barri a’r Ganolfan Technoleg Uwch yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i gymuned y Fro.
“Nid yn unig fydd y staff a’r dysgwyr yn elwa o gyfleusterau ansawdd uchel a chynaliadwy, ond bydd hefyd yn galluogi dysgwyr i ennill y sgiliau mae cyflogwyr yn chwilio amdanyn nhw, gan agor cyfleodd i bawb. Edrychaf ymlaen at weld sut mae’r prosiect hwn yn datblygu, yn ogystal â gweld y buddion mae’r cyfleusterau blaengar hyn eu cael ar ddysgwyr a’r gymuned ehangach.”
Dywedodd y Cynghorydd Lis Burnett, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg: "Mae hwn yn newyddion gwych i Fro Morgannwg. Bydd campws arfaethedig gwerth miliynau o bunnoedd y Glannau a’r Ganolfan Technoleg Uwch yn ddatblygiadau nodedig i’r sir. Byddant yn dod â chyfleusterau addysg blaengar a modern i ddysgwyr ledled y Fro.
"Rwy'n hynod falch o'n cydweithio parhaus fel partneriaid sector cyhoeddus gyda Choleg Caerdydd a'r Fro a Llywodraeth Cymru wrth helpu'r Coleg i wneud cynnydd wrth ddarparu'r cynllun addysgol newydd cyffrous hwn.
“Bydd y campysau newydd hyn yn cynnig cyfleoedd hyfforddiant galwedigaethol ac addysg newydd sydd mawr eu hangen, ac yn gwasanaethu fel enghraifft anhygoel o sut all addysg fod yn ysgogwr i adfywio lleol a chreu lleoedd.”