Mae Academi Pêl Fasged Coleg Caerdydd a’r Fro wedi ennill Pencampwriaethau Chwaraeon Cymdeithas y Colegau (AoC) ledled y DU yn eu disgyblaeth am yr ail flwyddyn yn olynol.
Y llynedd, fe greodd yr Academi Pêl Pasged hanes drwy ddod y tîm cyntaf o Gymru i ennill y teitl. Nawr nhw yw’r tîm cyntaf o Gymru i’w hennill hi ddwy flynedd yn olynol.
Fe deithiodd yr Academi i Nottingham yn ddiweddar i gystadlu ym Mhencampwriaethau Chwaraeon AoC. Rhannwyd y twrnamaint Pêl Fasged yn ddau grŵp o bum tîm, gyda’r safle cyntaf a’r ail yn y ddau grŵp yn cymhwyso ar gyfer y rowndiau cynderfynol ac wedyn y rownd derfynol o hynny.
Gorffennodd CCAF ei grŵp 4-0, gan drechu Coleg Richard Huish, Coleg Brockenhurst, Coleg Chweched Dosbarth Bede a Choleg Dudley. Wedyn fe wnaethon nhw drechu Coleg Sheffield yn y rownd gynderfynol a Choleg Dudley yn y rownd derfynol, lle daliwyd Dudley i ddim basgedi yn y gêm gyfan, dim ond sgorio o dafliadau rhydd.
Dywedodd Capten yr Academi Pêl Fasged, Luca Basini-James: "Mae ennill ein hail Bencampwriaeth Genedlaethol yn dyst i ymroddiad a chred ddiwyro ein tîm ni yn ein gilydd. Fe wnaethon ni roi popeth ar y cwrt, ac mae dod â'r teitl yma adref eto i CCAF yn anrhydedd anhygoel."
Dywedodd Pennaeth Pêl Fasged CCAF, Ieuan Alex Jones: “Rydw i’n eithriadol falch o’n tîm ni, mae ennill ail Bencampwriaeth Genedlaethol AoC yn olynol yn gyflawniad aruthrol. Fe wnaethon ni berfformio’n wych drwy gydol y twrnamaint a dangos gwaith tîm ardderchog wrth ymosod ac amddiffyn ar y cwrt. Fe ddyfarnwyd Paddy Whitestone yn chwaraewr mwyaf gwerthfawr y twrnamaint am ei allbwn sgorio a’i arweinyddiaeth.”
Dywedodd Paddy Whitestone: “Mae ennill Pencampwriaeth Genedlaethol yr AoC am yr ail flwyddyn yn olynol wedi teimlo’n swreal. Yr undod a’r didwylledd rydyn ni’n ei ddangos fel tîm oedd y rheswm i ni lwyddo ar y lefel yma eto.”
Mae Academi Pêl Fasged CCAF yn cynnwys myfyrwyr o bob rhan o'r Coleg sy'n astudio amrywiaeth o gyrsiau galwedigaethol ac academaidd. Mae’r Academi’n darparu amgylchedd cefnogol ac arbenigol sy’n cyfuno cyfleusterau hyfforddi a chwaraeon o’r radd flaenaf gyda phortffolio eang y Coleg o gyrsiau. Gall y chwaraewyr wneud cynnydd yn eu gyrfaoedd chwaraeon wrth astudio yn y Coleg a pharatoi ar gyfer dyfodol y tu allan i chwaraeon hefyd.
I gael gwybod mwy am yr Academi Pêl Fasged ewch i: https://cavc.ac.uk/cy/basketballacademy