Dosbarth meistr E-chwaraeon CCAF yn dangos y llwybrau gyrfa y tu ôl i'r gêm i ddisgyblion

5 Maw 2026

Yn ddiweddar, croesawodd Coleg Caerdydd a'r Fro ddisgyblion Blwyddyn 9 o Ysgol Uwchradd Mary Immaculate i ddysgu am yr ystod enfawr o lwybrau gyrfa y tu ôl i'r diwydiant E-chwaraeon sy'n tyfu mor gyflym.

Wedi'i gynnal gan dîm E-chwaraeon y Coleg, mwynhaodd y disgyblion ddosbarth meistr mewn adeiladu tîm, ystod eang o weithgareddau gan gynnwys gweithgareddau Makerspace, profi penset Realiti Rhithwir, cymryd rhan mewn cystadleuaeth treial amser F1, adeiladu Minecraft, Lego Mindstorm, rhaglennu robotiaid a defnyddio tabledi ar gyfer profiad creadigol. Fe wnaethant hefyd roi cynnig ar bodledu a defnyddio technoleg sgrin werdd a ddefnyddir mewn darlledu e-chwaraeon, a gweld arddangosiad o argraffu 3D a sut mae'n gweithio.

Ochr yn ochr â hyn, dysgodd y disgyblion hefyd fwy am y llwybrau gyrfa niferus ac amrywiol y gallwch symud ymlaen iddynt yn y diwydiant e-chwaraeon neu ar ôl astudio e-chwaraeon gan ddefnyddio'r sgiliau a'r profiad ehangach a enillwyd.

Mae sector E-chwaraeon y DU yn faes o dwf sylweddol, a rhagwelir y bydd chwaraewyr gemau ar-lein yn cyrraedd 11.56m erbyn 2027, cynnydd o 6.64% ar y ffigur ar gyfer 2023. Mae cyrsiau E-chwaraeon CCAF yn darparu cymwysterau arbenigol, wedi'u cymeradwyo gan Gymdeithas E-chwaraeon Prydain, a all agor drysau i ystod o opsiynau dilyniant o E-chwaraeon i Reoli Digwyddiadau a Newyddiaduraeth Chwaraeon.

Mae CCAF yn cynnig cyrsiau E-chwaraeon poblogaidd ôl-16 ar bob lefel hyd at addysg uwch, wedi'u cymeradwyo gan Gymdeithas E-chwaraeon Prydain, gan helpu dysgwyr i symud ymlaen i yrfa a diwydiant y maent yn angerddol amdano, gyda gwybodaeth sector benodol yn ogystal â sgiliau trosglwyddadwy y mae cyflogwyr yn eu gwerthfawrogi. Mae'r cyrsiau'n cynnwys marchnata, rheoli digwyddiadau, darlledu, datblygu cynnwys, hyfforddi a seicoleg ochr yn ochr â phrofiadau o chwarae gemau ar lefel broffesiynol.

Ysgol Uwchradd Mary Immaculate yng Nghaerdydd oedd un o'r ysgolion cyntaf yn y wlad i ddatblygu cyfleuster e-chwaraeon pwrpasol, gan alluogi disgyblion ysgol i ymgysylltu â'r pwnc cynyddol boblogaidd hwn.

Dywedodd Mr Butcher, Athro mewn Mathemateg, Manwerthu, Busnes, E-chwaraeon a Phennaeth Blwyddyn 8 yn Ysgol Uwchradd Mary Immaculate: "Mwynhaodd y disgyblion eu profiad E-chwaraeon yn CCAF yn fawr. Roedden nhw wrth eu bodd â'r elfen ymarferol o'r Mindstorm a phrofi'r sgrin werdd a chreu cynnwys.

"Roedden nhw hefyd wrth eu bodd yn gweld ochr wahanol i E-chwaraeon ac roedd y wers a gyflwynwyd yn hynod ddiddorol ac wedi'i feddwl drwyddi yn dda. Roedd staff y Coleg yn gyfeillgar a chroesawgar, ac roedd y disgyblion wedi rhyfeddu ar y cyfleusterau. Roedden nhw'n ei chael hi'n ddiddorol gwybod am y gwahanol lwybrau gyrfa sydd ar agor iddyn nhw ac mae'n bendant yn rhywbeth yr hoffem ei wneud eto y flwyddyn nesaf."

Dywedodd Pennaeth Coleg Caerdydd a'r Fro, Sharon James-Evans: "Roeddem yn falch iawn o allu gwahodd disgyblion Ysgol Uwchradd Mary Immaculate i CCAF i roi blas iddynt o'n cynnig a'n cyfleusterau E-chwaraeon. Mae E-chwaraeon yn ddiwydiant sy'n tyfu mor gyflym ac mae gallu ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf a dangos yr opsiynau sydd ar gael iddyn nhw bob amser yn bleser."