Ymgynghorydd Datblygu Busnes

Nick Aiston

Fel rhan o'r Tîm Datblygu Busnes, mae Nick yn gweithio'n uniongyrchol gyda chyflogwyr, gan roi cyngor ac arweiniad ar atebion hyfforddi ar gyfer eu sefydliad. Mae Nick yn canolbwyntio ar gefnogi sefydliadau o fewn y sectorau Adeiladu, Peirianneg, Awyrofod a Modurol. 

Mwy am Nick

Mae Nick wedi bod yn rhan o Goleg Caerdydd a’r Fro ers nifer o flynyddoedd fel Swyddog Gyrfaoedd, a nawr fel Ymgynghorydd Datblygu Busnes. Mae gan Nick gefndir mewn Rheoli Manwerthu a Hyfforddi Chwaraeon.
Mae Nick yn angerddol am archwilio prinder sgiliau a gweithio gyda busnesau i helpu i ddatrys y prinderau hyn. Nod Nick yw adeiladu partneriaethau strategol hirdymor rhwng sefydliadau a'r coleg. Mae Nick bob amser yn chwilio am ffyrdd arloesol o helpu’r partneriaethau hyn i ddatblygu, a sut y gall y partneriaethau hyn fod o fudd i ddysgwyr yng ngholeg Caerdydd a’r Fro.