Ar gyfer y rhai sy'n gweithio yn y diwydiant moduro, rydym ni'n cynnig achrediadau proffesiynol a gydnabyddir gan y diwydiant a hyfforddiant sy'n asesu diogelwch a chymhwysedd technegwyr sy'n cynnal a chadw ac yn atgyweirio cerbydau yn y diwydiannau cerbydau masnachol, trelar a chludo teithwyr. Mae ein Canolfan Foduro gwbl fodern yng nghalon Caerdydd yn gartref i'n Hacademi Foduro; canolfan gymeradwy ar gyfer holl gyrsiau'r IMI (Sefydliad y Diwydiant Moduro), ATA (Achrediadau Technegwyr Moduro), MOT ac arolygu ac amrywiaeth o feysydd arbenigol, gan gynnwys paentio cerbydau a phanelau a cherbydau trwm ac ysgafn.
Enw’r cwrs |
Lefel
|
Dyddiadau dechrau ar gael
|
Lleoliadau ar gael
|
---|---|---|---|
Ail-achrediad Uwch-dechnegydd Paent | L3 Rhan Amser | Cysylltwch â ni i gael dyddiadau. | Campws Canol y Ddinas, Caerdydd |