Fel Hyfforddwr Dysgu a Datblygu, mae William yn datblygu ac yn cyflwyno ystod o gyrsiau AON pwrpasol i ddiwallu anghenion sefydliadau amrywiol. Mae'r cyrsiau hyn yn gymysgedd o gyrsiau achrededig a heb eu hachredu, yn unol â'r galw.
Mae gan William gyfoeth o brofiad yn addysgu mewn ystafelloedd dosbarth traddodiadol ac amgen, gan weithio'n agos gyda myfyrwyr ag anghenion ychwanegol, ac arwain gweithdai yn ei gymuned leol. Mae William yn cynnig set unigryw o sgiliau sy'n tynnu ar ei gyfoeth o brofiad i ysgogi, ysbrydoli, ac annog dysgwyr nid yn unig i gyflawni, ond i fynd y tu hwnt i'w nodau dysgu a datblygiad personol.