Hoffech chi ddiweddaru eich sgiliau mathemategol a defnydd o rifau ac ennill cymhwyster i'w ychwanegu at eich CV?
Rydym yn cynnal rhaglen Defnydd o Rifau yn adran Fusnes Coleg Caerdydd a’r Fro lle byddwn yn helpu’r cyfranogwyr i ddatblygu'r sgiliau isod ymhellach:
Bydd y cyfranogwyr yn ennill cymhwyster City and Guilds drwy fynychu'r rhaglen hon a byddant yn dod yn fwy medrus fyth ym maes:
Bydd y cwrs yn para dros 6 sesiwn a fydd yn cael eu cynnal bob pythefnos . Bydd hyn yn rhoi amser astudio hunangyfeirio i’r cyfranogwyr rhwng y sesiynau . Bydd pob diwrnod o'r rhaglen yn digwydd rhwng 9.30am a 3pm gydag amser ar gyfer egwyl am goffi a chinio . Bydd y dull dysgu yn gyfuniad o sesiynau rhithwir ac wyneb yn wyneb
Bydd y cwrs yn dechrau gyda’r cyfranogwyr yn cael asesiad cychwynnol fel bod yr hwyluswyr yn gallu gweld eu lefel gyfredol . Wedyn bydd y sesiynau'n canolbwyntio ar sgiliau a chanlyniadau allweddol y cymhwyster er mwyn paratoi’r cyfranogwyr ar gyfer yr asesiad terfynol . Byddwn yn gorffen gydag asesiad o'r sgiliau rydyn ni wedi'u hastudio ym mhob sesiwn a bydd y cyfranogwyr yn derbyn eu cymhwyster .
Amserlen y Cwrs:
Gweithdy 1: Dydd Iau 10fed Medi 2026, 9.30am - 12.30pm
Gweithdy 2: Dydd Iau 17eg Medi 2026, 9.30am - 12.30pm
Gweithdy 3: Dydd Iau 24ain Medi 2026, 9.30am - 12.30pm
Gweithdy 4: Dydd Mawrth 29ain Medi 2026, 9.30am - 12.30pm
Gweithdy 5: Dydd Mawrth 6ed Hydref 2026, 9.30am - 12.30pm
Gweithdy 6: Dydd Mawrth 13eg Hydref 2026, 9.30am - 12.30pm
Gweithdy 7: Dydd Mawrth 20fed Hydref 2026, 9.30am - 12.30pm
Gweithdy 8: Dydd Mawrth 3ydd Tachwedd 2026, 9.30am - 12.30pm
Gweithdy 9: Dydd Mawrth 10fed Tachwedd 2026, 9.30am - 12.30pm
Gweithdy 10: Dydd Iau 19eg Tachwedd 2026, 9.30am - 12.30pm
Diwrnod Asesu 1: Dydd Mercher 9fed Rhagfyr 2026, 9.30-4pm
Diwrnod Asesu 2: Dydd Iau 10fed Rhagfyr 2026, 9.30-4pm
Ffi Cofrestru: £45.00
Rydych yn gymwys ar gyfer y cwrs hwn os: - Rydych yn 19 oed neu'n hŷn - Nad ydych chi mewn addysg llawn amser - Nad oes gennych chi radd C TGAU neu uwch mewn Mathemateg
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.