DiSC - Rheolaeth

L3 Lefel 3
Cysylltwch â ni i gael dyddiadau.
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Crynodeb o’r Cwrs

Mae’r adnodd a’r gweithdy hwn yn berthnasol i reolwyr ar bob lefel, yn ogystal â staff sydd eisiau symud i swydd reoli. Mae’r gweithdy hwn yn defnyddio gwaith cyn y cwrs ar-lein, sicrhau hwyluso gyda fideo cyfoes, a dilyniant ar-lein i greu profiad dysgu personol. Bydd y cyfranogwyr yn dysgu sut i ddarllen steil pobl wrth iddynt reoli ac addasu eu steil eu hunain yn fwy effeithiol.

Wedi’i gyfuno gyda gweithdy undydd sy’n seiliedig ar arferion gorau, mae Rheolaeth DiSC yn cysylltu eich steiliau rheoli unigryw â gofynion y byd real, gan greu sgyrsiau pwerus sy’n cynorthwyo gyda rheoli’n fwy effeithiol. 

Cynnwys

Bydd pob cyfranogwr yn derbyn manylion mewngofnodi unigryw ar gyfer asesiad ar-lein byr cyn y gweithdy. Ar ddiwrnod y gweithdy, byddwch yn cael adroddiad personol yn manylu ar ble rydych chi’n perthyn ar Fap DiSC, beth yw eich blaenoriaethau rheoli a sut gallant effeithio ar y meysydd allweddol mewn rôl reoli.

Bydd hwyluso difyr, trafod â rheolwyr eraill a naratif gref yn ychwanegu dyfnder at y data a bydd cymhorthion gweledol cadarn yn cefnogi’r broses ddysgu a negeseuon allweddol.

Mae’r diwrnod yn canolbwyntio ar y canlynol:

  • Cyfarwyddo a Dirprwyo
  • Gwella Cymhelliant y Gweithwyr
  • Datblygu Gweithwyr
  • Gweithio Gyda’ch Rheolwr

Pob un gyda’ch adroddiad proffil unigol. 

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

Cysylltwch â ni i gael dyddiadau.

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

CSDISCP0M
L3

Cymhwyster

DiSC

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Campws Canol y Ddinas,

Heol Dumballs,

Caerdydd,

CF10 5FE