Tystysgrif Lefel 5 ILM mewn Mentora a Hyfforddi Effeithiol

L5 Lefel 5
26 Chwefror 2026 — 20 Awst 2026
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
£: Mae'r cwrs hwn yn rhad ac am ddim i oedolion neu oedolion sydd yn cael budd-daliadau penodol. Os ydych chi'n gymwys, nid ydych yn talu'r 'Ffi cwrs' a restrir o dan 'Ffi cwrs flynyddol'. Gellir codi ffi gofrestru o £10-40. Bydd angen talu unrhyw ffi gofrestru broffesiynol / ffi arholiad / ffi arall a restrir. Gall cefnogaeth ariannol fod ar gael ar gyfer y costau hyn. I ddysgu mwy ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding

Ynghylch y cwrs hwn

Datblygwch eich diwylliant mentora a hyfforddi yn eich tîm a chefnogwch eich sefydliad gyda’n Tystysgrif ILM Lefel 5 mewn Hyfforddi a Mentora! 

P’un a ydych yn awyddus i ddod yn hyfforddwr neu’n fentor, neu mae gennych eisoes gyfrifoldebau hyfforddi a mentora o fewn sefydliad, bydd y cymhwyster hwn a gydnabyddir yn genedlaethol yn ystyried sut all datblygu diwylliant hyfforddi wella cynhyrchiant sefydliadol ac ymddygiadau cadarnhaol yn y gweithle.

Cewch ymarfer eich technegau hyfforddi a chymhwyso modelau o fewn amgylchedd cefnogol gyda chymorth ychwanegol gan eich tiwtor i annog ymarfer myfyriol a datblygiad personol o fewn y rôl hyfforddi a mentora.

Cliciwch ar yr isdeitlau isod am ragor o wybodaeth!

Beth fyddwch chi’n ei astudio

I ennill eich Dyfarniad Lefel 5 ILM, bydd angen i chi fynychu 5 sesiwn ddosbarth wyneb yn wyneb orfodol a sesiynau tiwtorial gyda’ch tiwtor ar y dyddiadau isod:   

Diwrnod 1: Dydd Iau 26ain Chwefror 2026
Diwrnod 2: Dydd Iau 26ain Mawrth 2026
Diwrnod 3: Dydd Iau 30ain Ebrill 2026
Diwrnod 4: Dydd Iau 4ydd Mehefin 2026
Diwrnod 5: Dydd Iau 2il Gorffennaf 2026
Diwrnod 6: Dydd Iau 16eg Gorffennaf 2026
Diwrnod 7: Dydd Iau 20fed Awst 2026

Modiwlau Dan Sylw 

  • Uned 500: Deall y Sgiliau, yr Egwyddorion a’r Arferion Mentora a Hyfforddi Effeithiol o fewn Cyd-destun Sefydliadol 
  • Uned 501: Cynnal Hyfforddiant a Mentora Effeithiol o fewn Cyd-destun Sefydliadol (18 awr yn ymarfer hyfforddi mewn sefydliad)
  • Uned 503: Adolygu eich Gallu eich hun fel Hyfforddwr neu Fentor o fewn Cyd-destun Sefydliadol

Dewisiadau Asesu

Mae’r cymhwyster yn cynnwys 3 modiwl ar arwain, pob un gydag asesiad cynhwysfawr yn cynnwys; aseiniad ysgrifenedig ar sail damcaniaeth, portffolio gwerth 18 awr o hyfforddi mewn sefydliad, ac aseiniad sy’n seiliedig ar fyfyrio.

Mae amser i hunan-astudio yn allweddol i’ch helpu i gwblhau eich aseiniadau a pharatoi at eich asesiad - felly sicrhewch eich bod yn trefnu eich amserlen yn unol â hynny.  
Byddwch yn cael cymorth llawn drwy gydol y cwrs, gydag arweiniad gan eich tiwtor ILM dynodedig dros e-bost, Microsoft TEAMS, ffôn ac yn ystod diwrnodau eich tiwtorial.

Ar ôl i chi basio’r ddau fodiwl, byddwch yn derbyn eich Tystysgrif Dyfarniad Lefel 5 ILM mewn Hyfforddi Effeithiol, ynghyd â bathodyn digidol i’w rannu a dathlu eich cyflawniad ar-lein.

Ffïoedd cwrs

Ffi Arholiad : £201.00

Ffi Cofrestru: £45.00

Ffi Cwrs: £1,324.00

Gofynion mynediad

Rhaid talu Ffi y Cwrs a Chofrestru wrth gofrestru.
I fod yn gymwys ar gyfer y cymhwyster hwn, rhaid i chi:

  • fod mewn swydd fel Goruchwyliwr, Arweinydd Tîm neu Reolwr Llinell Gyntaf (oherwydd natur adfyfyriol aseiniadau'r cymhwyster).
  • lanlwytho Datganiad Personol sy'n 100 gair o leiaf wrth wneud cais i amlinellu eich diddordeb mewn ennill y cymhwyster hwn.
  • lanlwytho tystiolaeth o'ch cymhwyster uchaf hyd yma ee TGAU neu Dystysgrif Gradd.

Bydd pob cais, datganiad personol a thystiolaeth cymwysterau yn cael eu hasesu gan ein Tiwtoriaid Cwrs. Bydd y tîm wedyn yn cysylltu â chi i gadarnhau eich addasrwydd cyffredinol ar gyfer y lefel hon o gymhwyster ILM.

Sylwch na allwn brosesu ceisiadau heb Ddatganiad Personol.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

26 Chwefror 2026

Dyddiad gorffen

20 Awst 2026

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau
£: Mae'r cwrs hwn yn rhad ac am ddim i oedolion neu oedolion sydd yn cael budd-daliadau penodol. Os ydych chi'n gymwys, nid ydych yn talu'r 'Ffi cwrs' a restrir o dan 'Ffi cwrs flynyddol'. Gellir codi ffi gofrestru o £10-40. Bydd angen talu unrhyw ffi gofrestru broffesiynol / ffi arholiad / ffi arall a restrir. Gall cefnogaeth ariannol fod ar gael ar gyfer y costau hyn. I ddysgu mwy ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding

Cod y cwrs

CSILMECM5P02
L5

Cymhwyster

ILM Level 5 Certificate in Effective Coaching and Mentoring

Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach

  • Dyfarniad Lefel 7 ILM Mentora a Hyfforddi Gweithredol
  • Dyfarniad Lefel 5 ILM Yr Arweinydd Datblygu
  • Dyfarniad Lefel 5 ILM Yr Arweinydd Newid

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Campws Canol y Ddinas,

Heol Dumballs,

Caerdydd,

CF10 5FE