Dyfarniad mewn Addysg a Hyfforddiant (CDP)

Mae'r cwrs yma ar gael mewn lleoliadau gwahannol. Dewiswch leoliad.

Ynglŷn â'r cwrs

Mae’r Dyfarniad Lefel 3 mewn Addysg a Hyfforddiant yn gyflwyniad i addysgu a fydd yn rhoi gwybodaeth am rôl, cyfrifoldebau a pherthnasoedd mewn addysg a hyfforddiant, sut i gynllunio a chyflwyno sesiynau addysgu cynhwysol a sut i asesu a rhoi adborth adeiladol.

Mae hyn yn ddelfrydol ar gyfer dysgwyr sy’n dechrau ymgymryd â sesiynau hyfforddi byr. 

Hefyd gall y cymhwyster yma eich helpu chi i wneud cynnydd mewn swyddi addysgu/hyfforddi a chefnogi mewn amrywiaeth eang o sefydliadau yn y sector dysgu gydol oes. 

Mae'r cwrs AM DDIM hwn ar gael i oedolion sy'n gymwys am Gyfrif Dysgu Personol (PLA) yn unig. Mae Cyfrifon Dysgu Personol, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, ar gael i oedolion cyflogedig sy'n byw yng Nghymru sy'n dymuno gwella sgiliau er mwyn datblygu neu newid gyrfa. 
Canfyddwch a ydych yn gymwys heddiw.

Dyddiadau cwrs

Mae hwn yn gwrs 4 diwrnod a gyflwynir ar ein Campws Canol y Ddinas.

Diwrnod 1 = 20 Mehefin 2024

Diwrnod 2 = 21 Mehefin 2024

Diwrnod 3 = 26 Mehefin 2024

Diwrnod 4 = 27 Mehefin 2024

Beth fyddwch yn ei astudio?

Yn ystod y cwrs pump diwrnod byddwch yn rhoi sylw i’r meysydd canlynol:

  • Deall pob Rôl, Cyfrifoldeb a Pherthynas mewn Addysg a Hyfforddiant  
  • Deall a Defnyddio Dulliau Addysgu a Dysgu Cynhwysol mewn Addysg a Hyfforddiant
  • Deall Asesu mewn Addysg a Hyfforddiant 

Mae’r cwrs yn cynnwys llawer o sesiynau gweithdy ymarferol a bydd y dysgwyr yn cael cyfle i ddatblygu a chyflwyno micro sesiwn a derbyn adborth gan yr hyfforddwr. 

Gwybodaeth allweddol
This course is presented in several different locations, please choose the one convenient for you above.