Prosiectau a ariennir gan CAVC
Uwchsgilio@Waith
Mae Uwchsgilio@Waith yn ymgyrch wedi'i hariannu gyda chefnogaeth Cronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru fydd yn parhau dan 31 Ionawr, 2023. Mae'n rhan o ymgyrch ledled Cymru, sydd wedi'i dylunio i wella sgiliau a chynyddu cynhyrchiant yn y gweithle, a darparu cyfleoedd i gyflogwyr ennill cymwysterau achrededig ar gyfer eu gweithluoedd.
Mae CAVC yn un o gyd-fuddiolwyr cynllun Uwchsgilio@Waith Dwyrain Cymru ac yn cydweithio mewn partneriaeth â cholegau ledled y rhanbarth i gynnig hyd at 100% o gyllid ar gyfer cwmnïau cymwys ar draws ystod eang o bynciau, gan gynnwys:
- Arwain a Rheoli
- Iechyd a Gofal Cymdeithasol
- Gweinyddiaeth Busnes a Gwasanaeth Cwsmer
- Gwasanaethau Cefnogi Cyfleusterau
- Lletygarwch ac Arlwyo
- Adeiladu
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi defnyddio Uwchsgilio@Waith i ddarparu datrysiadau o ansawdd uchel, a arweinir gan ddiwydiant, i gyflogwyr ar draws Caerdydd a Bro Morgannwg. Mae'r cyllid yn rhan o bortffolio o 'gynnyrch', sy'n cynnwys Cyfrifon Dysgu Personol (PLA) Llywodraeth Cymru, Prentisiaethau, datrysiadau masnachol a llwybrau ariannu eraill.
Ni ellir canmol digon ar lwyddiant Uwchsgilio@Waith (dros 1,200 o unigolion wedi cael eu heffeithio'n gadarnhaol gan hyfforddiant a ariannwyd drwy'r ymgyrch hyd heddiw), yn enwedig o fewn y farchnad BBaCh, sy'n cyfrif am 47% o'r cyflogwyr sydd wedi elwa ohono.
Yn ogystal, rydym yn gweithio gydag awdurdodau lleol, undebau masnach, a byrddau hyfforddi penodol i sector eraill, i gefnogi costau hyfforddi ag ariannu cyfatebol.
Cyfrifon Dysgu Personol (PLA)
Mae Cyfrifon Dysgu Personol yn darparu hawl i ddysgu’n hyblyg wedi’i hariannu’n llawn (ar gael hyd at 31 Gorffennaf, 2023) sy’n cefnogi unigolion cyflogedig sy’n ennill dan £29,534 y flwyddyn, neu’r rheini sydd mewn risg o golli eu swyddi, i ennill y sgiliau cywir a newid cyfeiriad mewn gyrfa neu fynd ymlaen yn y byd gwaith. Mae’r cyrsiau wedi’u dylunio’n arbennig i fynd i’r afael â hyfforddiant galwedigaethol mewn sectorau lle mae prinder sgiliau, gan sicrhau bod anghenion yfory’r economi yn cael eu bodloni.
Ymhlith y sectorau â blaenoriaeth mae:
- Deunyddiau a Gweithgynhyrchu Uwch
- Lled-ddargludyddion Cyfansawdd
- Adeiladu
- Creadigol
- Technoleg Ddigidol a Galluogi
- Addysg, Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant
- Sgiliau Gwyrdd er mwyn Trosglwyddo i Sero Net
- Lletygarwch, Manwerthu a Thwristiaeth
- Gwasanaethau Ariannol, Cyfreithiol a Phroffesiynol
- Y Sector Cyfan (yn cynnwys NEBOSH/PRINCE2, Retrofit ac IEMA)
Am ragor o wybodaeth, ewch i: www.cavc.ac.uk/en/pla
Enghreifftiau o ddatrysiadau a ariannwyd a ddefnyddiwyd gan sefydliadau yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg:
- Hodge Bank: Mae CAVC wedi bod yn gweithio'n ymgynghorol gyda Hodge Bank yn ystod yr 18 mis diwethaf. Rydym wedi adnabod anghenion hyfforddi, ac wedi darparu ystod o raglenni wyneb yn wyneb a rhithiol, gyfochr â gweminarau rhyngweithiol, yn cynnwys hyfforddiant Iechyd Meddwl unigryw: "Dangos gwytnwch yn ystod Cyfnodau heriol" a "Gwytnwch i staff ar y rheng flaen". Nawr, rydym yn cynllunio darpariaeth Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl Cymru pellach ar gyfer mis Ionawr 2021.
- Tai Hafod: Mae CAVC wedi gweithio mewn partneriaeth agos â Hafod dros y tair blynedd diwethaf, i ddarparu ystod o raglenni Arwain a Rheoli unigryw, sy'n cynnwys gwerthoedd Hafod. Roedd y cyrsiau'n targedu cyflogwyr presennol ac uchelgeisiol ar lefelau gwahanol i gefnogi datblygiad proffesiynol, ac ar hyn o bryd, rydym yn cynllunio gwaith ar gyfer y dyfodol gyda thîm Gweithredol Hafod, fydd yn cychwyn yn ystod Gwanwyn 2021.
- Aston Martin Lagonda Ltd: Ym mis Gorffennaf 2018, cychwynnodd y Coleg archwiliad sgiliau manwl a dadansoddiad anghenion hyfforddi i gefnogi gweithrediadau Aston Martin. Mae'r ymarfer wedi helpu i lywio cwricwla llawn-amser a gofynion prentisiaethau, sydd bellach ar gael i ddysgwyr.
- BBC Cymru: Mae CAVC wedi cydweithio gyda BBC Cymru i gynnig Rhaglen Brentisiaeth Newyddiaduriaeth Ddigidol newydd. Cefnogwyd datblygiad cwricwla a staff drwy'r Rhaglen Blaenoriaeth Sgiliau.
- Cynnal a Chadw British Airways Caerdydd (BAMC): Mae CAVC yn darparu Rhaglen Brentisiaeth Uwch ar gyfer BAMC. Mae'r cydweithrediad wedi arwain at gynnyrch arloesol tu hwnt, sy'n darparu'r cyfleoedd hyfforddi gorau bosib ac yn datblygu'r genhedlaeth nesaf o ddoniau ar gyfer y diwydiant awyrofod. Cryfhawyd y berthynas gan Raglen Blaenoriaeth Sgiliau, sydd wedi cefnogi darpariaeth hyfforddiant unigryw mewn atgyweirio haenau, cyfansoddion, Part66 a gwaith atgyweirio strwythurol.
Am ragor o wybodaeth ar sut allwch chi a'ch busnes elwa o gyllid - cysylltwch â ni.