Nod y cwrs hwn yw rhoi dealltwriaeth gynhwysfawr i uwch reolwyr llinell mewn amgylchedd adeiladu o gyfrifoldebau iechyd a diogelwch unigolion a sefydliadau er mwyn sicrhau bod y gweithgareddau sydd o dan eu rheolaeth yn cael eu cynnal yn ddiogel.
Mae Tystysgrif Adeiladu Genedlaethol NEBOSH yn rhoi sylw i'r prif ofynion cyfreithiol sy'n ymwneud ag iechyd a diogelwch ym maes gwaith adeiladu yn y DU, adnabod a rheoli peryglon adeiladu yn y gweithle, a defnyddio'r wybodaeth hon yn ymarferol.
Mae'r cwrs hwn yn rhedeg 9am-5pm (tua) ar-lein dan arweiniad tiwtor.
Rhaid i chi gael mynediad i gyfrifiadur/gliniadur i ymgymryd â'r hyfforddiant hwn.
Mae'r cwrs AM DDIM hwn ar gael i oedolion sy'n gymwys am Gyfrif Dysgu Personol (PLA) yn unig. Mae Cyfrifon Dysgu Personol, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, ar gael i oedolion cyflogedig sy'n byw yng Nghymru sy'n dymuno gwella sgiliau er mwyn datblygu neu newid gyrfa.
Canfyddwch a ydych yn gymwys heddiw.
Mae Tystysgrif NEBOSH mewn Iechyd a Diogelwch Adeiladu’n cynnwys dwy uned; pob un yn cael ei hasesu ar wahân:
Uned NCC1: Rheoli Peryglon mewn Gweithgareddau Adeiladu:
Uned NCC2: Defnyddio iechyd a diogelwch adeiladu yn ymarferol
Asesiad ymarferol seiliedig ar waith a gynhelir yn eich gweithle heb fod yn hwyrach na phythefnos ar ôl sefyll eich arholiadau NEBOSH terfynol. Asesir gan drefnydd y rhaglen a'i gymedroli'n allanol gan NEBOSH. Bydd pob cyfranogwr yn derbyn canllawiau ysgrifennu adroddiadau.
Mae'r cwrs hwn ar gyfer unigolion sydd â chyfrifoldebau uwch reolaeth linell am ddiogelwch eraill yn eu gweithlu, gan gynnwys; prif gontractwyr a phrif ddylunwyr, rheolwyr safleoedd a swyddogion diogelwch.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.