A ydych chi’n barod i gymryd y cam nesaf tuag at yrfa lwyddiannus? Mae ein rhaglen 3 wythnos gyffrous wedi ei dylunio i’ch darparu â'r cyfle i ennill y sgiliau, yr hyder, a’r profiadau ymarferol sydd eu hangen i sicrhau eich swydd nesaf..
Ariennir a chymeradwyir y rhaglen hon yn llawn gan yr Adran Gwaith a Phensiynau.
Cyflwynir y rhaglen o ddydd Llun - Gwener, 9.30am - 4.30pm am 3 wythnos.
Pynciau yr ymdrinnir â nhw:
Cymwysterau:
Cefnogir y rhaglen hon yn llawn gan nifer o gyflogwyr lleol a bydd yn cynnig cyfleoedd rhwydweithio ac yn rhoi sylw i swyddi gwag cyfredol a’r rhinweddau mae rheolwyr sy’n recriwtio yn chwilio amdanynt.
Fel rhan o'r broses ymgeisio, bydd gofyn i'r holl ymgeiswyr gwblhau proses sgrinio fer ddechreuol a chyfweliad.
Rydych chi'n gymwys os:
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.