Darlithydd CIPD ac IQ Arweiniol

Judy Hughes Assoc CIPD, FCMI, FIC

Mae Judy yn Ddarlithydd Adnoddau Dynol a Rheolaeth ac Arwain cwbl gymwys, ac yn Asesydd Ansawdd Mewnol Arweiniol CIPD o fewn CCAF. Mae Judy yn darparu Cyrsiau CIPD ac yn rheoli proses IQA CIPD gan sicrhau ein bod yn rhagori ar alinio ein Gwasanaethau a Systemau Ansawdd â gofynion CCAF a CIPD. Mae Judy yn cael ei hysgogi gan gyflawni rhagoriaeth yn ei rôl addysgu a’i rôl IQA, ac mae wir yn mwynhau’r cydbwysedd o addysgu wyneb yn wyneb â’r ffocws manwl sy’n ofynnol gan ei rôl Monitro Ansawdd. 

Mwy am Judy

Gyda dros 30 mlynedd o brofiad yn y sectorau busnes ac addysg, dechreuodd Judy ei gyrfa ym maes Cyllid a Chyfrifon, cyn datblygu i Seicoleg Alwedigaethol ac Ymgynghoriaeth Rheoli. Ar ôl ymarfer ar lefel Cyfarwyddwr, symudodd Judy i Ymgynghoriaeth ar ei liwt ei hun yn cyfuno seicometreg, AD, OD a chontractau hyfforddi a datblygu, yn ogystal â mwynhau rolau interim hirdymor fel Rheolwr Ymchwil a Datblygu, Ymarferydd OD a Rheolwr Hyfforddiant. Mae Judy wedi cymryd rhan mewn AB ac AU am y 15+ mlynedd diwethaf, ac mae’n mwynhau addysgu cynhwysol a difyr lle gall ei dysgwyr gyflawni eu nodau tra’n teimlo’n ddiogel, wedi eu cefnogi a’u gwerthfawrogi, ac yna’n cael eu cymell i gymhwyso eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth newydd yn eu bywydau bob dydd.