Fel Hyfforddwr Dysgu a Datblygu, mae Laura yn datblygu ac yn cyflwyno ystod o gyrsiau pwrpasol i ddiwallu anghenion sefydliadau amrywiol. Mae'r cyrsiau hyn yn gymysgedd o gyrsiau achrededig a heb eu hachredu, yn unol â'r galw.
Gweithiodd Laura yn y sector Lletygarwch am nifer o flynyddoedd. Yn ystod y cyfnod hwnnw datblygodd sgiliau gweithle yn ogystal â derbyn cymwysterau mewn iechyd a diogelwch a hylendid bwyd. Dechreuodd Laura ei thaith dysgu a datblygu trwy hyfforddi a datblygu cydweithwyr newydd gan ddefnyddio ei chyfoeth o brofiad a sgiliau a chaffael yn y sector i annog, ysgogi a datblygu eraill.