Fel Hyfforddwr Datblygu Arweinyddiaeth a Rheolaeth, mae Marianne yn datblygu a darparu datrysiadau i unigolion a sefydliadau, drwy weithio mewn ymgynghoriad ag unigolion a sefydliadau i adnabod anghenion dysgu, datblygu a darparu cyrsiau achrededig a heb eu hachredu unigryw ac wedi eu teilwra.
Gyda thros 20 mlynedd o brofiad yn gweithio mewn swyddi Arweinyddiaeth a Rheolaeth; mae Marianne yn arbenigo mewn myfyrio ar ei phrofiadau personol mewn arweinyddiaeth i ddod â damcaniaeth arweinyddiaeth a rheolaeth yn fyw. Mae ei gwybodaeth, ei diddordeb mawr a'i hegni i ddatblygu a chodi dyheadau ymgeiswyr yn amlwg yn llwyddiant ei rhaglenni a'r adborth a geir arnynt.