Blwyddyn fawr arall o lwyddiant yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru i Goleg Caerdydd a’r Fro

28 Meh 2021

Mae myfyrwyr Coleg Caerdydd a’r Fro wedi ennill 34 o fedalau yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru eleni, er gwaethaf pwysau’r cyfnod clo.

Daeth dysgwyr CAVC ag 14 o fedalau aur, saith medal arian a naw efydd adref - y flwyddyn orau erioed am fedalau aur i'r Coleg. Roedd y cystadlaethau y gwnaethant gymryd rhan ynddynt yn amrywio o Fenter i Ffotograffiaeth, Celf Gemau 3D, Codio a Thrin Gwallt, Celfyddydau Coginio, Cerbydau Trwm, Ailorffen Cerbydau ac Atgyweirio Cerbydau.

Cafwyd medalau yn y gystadleuaeth Sgiliau Cynhwysol ar gyfer pobl ag anghenion dysgu ychwanegol hefyd, gydag aur, arian ac efydd mewn Trin Gwallt Cynhwysol, arian mewn Garddwriaeth Gynhwysol ac efydd mewn Cerbydau Modur Cynhwysol. Enillodd ACT bedair medal arall mewn Sgiliau Cynhwysol, gan fynd â chyfanswm Grŵp Coleg Caerdydd a Fro i 34.

Yn hytrach na theithio o goleg i goleg i gystadlu, eleni cynhaliwyd yr holl gystadlaethau’n fewnol a chawsant eu barnu o bell. Cymerodd CAVC ran yn rhai o'r cystadlaethau am y tro cyntaf, fel Garddwriaeth Gynhwysol, Cerbydau Modur Cynhwysol, Menter, Gwyddoniaeth Fforensig a Chodio, a sicrhau enillwyr.

Bydd llawer o’r enillwyr yn mynd ymlaen i gystadlu yn Rowndiau Terfynol WorldSkills UK nawr, a gallent hefyd fod â siawns o gynrychioli’r DU yn Rowndiau Terfynol rhyngwladol WorldSkills yn Shanghai yn ddiweddarach eleni. Yn ychydig o dan 150, mae gan CAVC ei nifer uchaf erioed o ymgeiswyr yn WorldSkills UK, un o'r uchaf yn y wlad.

Mae Kian Swainston ar gwrs Ffotograffiaeth BTEC yn CAVC, cwrs y dechreuodd y Coleg ei gynnig eleni. Enillodd fedal aur mewn Ffotograffiaeth.

“Pan wnaethon nhw gyhoeddi fy mod i wedi dod yn gyntaf o dan yr adran ffotograffiaeth, roeddwn i ar ben fy nigon yn llythrennol,” meddai. “Roedd yn hwb enfawr i fy hyder i ac fe wnes i fwynhau’r profiad hefyd.

“Fe wnaeth y gystadleuaeth ddarparu gweithdai gyda gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio yn y diwydiant lle gwnaethon nhw rannu awgrymiadau, triciau a chyngor i ffotograffwyr newydd fel fi!

Enillodd y dysgwr Diploma Estynedig mewn Dylunio 3D, James Roberts, aur mewn Dylunio Gemau 3D. Meddai: “Mae’n deimlad gwych ennill Medal Aur fel cystadleuydd Celf Gemau 3D cyntaf erioed CAVC.

“Rydw i’n edrych ymlaen at symud ymlaen i WorldSkills a herio fy hun ymhellach.”

Roedd y gystadleuaeth Fenter yn brofiad cyntaf arall i CAVC ac roedd y fyfyrwraig Safon Uwch Ruby Nsubuga yn rhan o'r tîm a enillodd aur.

“Roedd yn anhygoel ennill, roedd yn hwb i fy hyder i, nid yn unig o ran fi fy hun ond o ran fy syniadau fel person hefyd,” meddai Ruby. “Yn bendant, fe ddysgais i fod gwaith tîm yn gwneud i'r freuddwyd weithio – roedd fy nhîm i’n wych.”

Enillodd y fyfyrwraig Trin Gwallt Lefel 3, Elaine Green, aur mewn Trin Gwallt.

“Pan ofynnodd fy nhiwtor i, Nicola Hamonda, i mi gymryd rhan yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru, roeddwn i’n hynod o falch bod Nicola yn meddwl ’mod i’n ddigon da felly fe wnes i gytuno,” meddai. “Roedd rhaid i mi gwblhau tri steil a oedd angen bod yn hollol berffaith, ac fe gymerodd hyn lawer o amser ac amynedd. Roeddwn i’n amau fy hun ar hyd y daith, ond fe wnes i ddal ati a chyflwyno fy ymgais.

“Ar y diwrnod gwobrwyo, roeddwn i’n gwylio gyda fy merch pan ddaethon nhw at fy nghategori i. Wrth iddyn nhw gyrraedd y fedal arian, fe ddywedodd fy merch ‘Dim ots Mam, tro nesaf efallai’. Ac wedyn fe wnaethon nhw gyhoeddi enw enillydd yr aur, fi! Roedd y ddwy ohonon ni’n sgrechian. Doeddwn i ddim yn gallu credu ’mod i wedi dod yn gyntaf!

“Roedd yn gyflawniad gwych ac rydw i mor falch ac yn dal mewn sioc hyd heddiw. Diolch gymaint i Nicola am roi fy enw i gystadlu a gadael i mi fod yn rhan o brofiad mor rhyfeddol. Pe bai unrhyw un yn gofyn i mi a ddylen nhw gystadlu, fe fyddwn i’n dweud, ie, yn bendant, mae mor werth chweil! ”

Mae Ruby Hurley yn astudio Pobi, Patisserie a Melysion Lefel 2, ac enillodd fedal efydd yn y gystadleuaeth Patisserie a Melysion.

“Pan gefais i wybod ’mod i wedi cael y drydedd wobr yn y gystadleuaeth, doeddwn i ddim yn gallu credu, o feddwl ’mod i wedi cael y trydydd safle yn fy nghystadleuaeth gyntaf erioed,” meddai. “Bydd y profiad gefais i o hyn yn aros gyda mi am byth, yn enwedig yn fy nghystadleuaeth nesaf gyda WorldSkills.”


Dywedodd Pennaeth CAVC, Kay Martin: “Llongyfarchiadau enfawr i’n holl enillwyr ni ar draws Grŵp CAVC. Mae dod â chymaint o fedalau adref o dan amgylchiadau mor heriol yn gyflawniad anhygoel.

“Fe hoffwn i hefyd ddiolch i'r holl staff ar draws y Coleg a Grŵp CAVC sy'n gweithio'n ymroddedig ac yn ddiflino i sicrhau bod eu dysgwyr yn gallu cyrraedd safonau mor uchel - mae'r canlyniad hwn yn glod i chi i gyd."

Dywedodd Cynrychiolydd WorldSkills UK Cymru a Phrif Weithredwr Grŵp Coleg Caerdydd a’r Fro, Mike James: “Llongyfarchiadau i bob un o fyfyrwyr ein Grŵp ni ar flwyddyn arall o ganlyniadau rhagorol. Mae Grŵp CAVC yn credu'n gryf ym mhwysigrwydd cystadlaethau sgiliau a'r rôl maen nhw’n ei chwarae wrth ddatblygu sgiliau cadarn a chreu ffynhonnell o dalent yn y dyfodol a fydd yn gallu ychwanegu gwerth ar unwaith i unrhyw gyflogwr.

“Fy nod i yw cael cymaint o aelodau o Gymru â phosibl yn Nhîm y DU yn WorldSkills Shanghai 2021 ac mae’r dalent eang sydd i’w gweld ar draws Cystadleuaeth Sgiliau Cymru yn addawol dros ben. Da iawn i bawb, yn staff a myfyrwyr, sydd wedi cymryd rhan."

Mae teulu Grŵp CAVC yn cynnwys Coleg Caerdydd a’r Fro, ACT Training ac ALS.