Myfyrwyr Parod Am Yrfa yn graddio yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro

5 Gor 2021

Mae Coleg Caerdydd a’r Fro wedi cynnal Seremoni Raddio ar-lein ar gyfer y 70 o fyfyrwyr sydd wedi cwblhau'r rhaglen eleni.

Mae'r rhaglen, sy'n cael ei gweithredu yn CCAF gan y Rheolwr Parod Am Yrfa Tracy Bird, yn rhan o elusen ledled y DU sy'n cysylltu cyflogwyr ag ysgolion a cholegau i agor y byd gwaith i bobl ifanc rhwng 16 ac 19 oed. Gall dysgwyr yn CCAF wneud cais i ymuno â'r rhaglen i redeg ochr yn ochr â'u cwrs a derbyn mentora, dosbarthiadau meistr, ymweliadau â'r gweithle ac interniaethau.

Ochr yn ochr â graddio ac areithiau gan gyn-fyfyrwyr Parod Am Yyrfa a’r mentoriaid presennol, cynhaliwyd seremoni wobrwyo. Enillodd Cai Pugh, myfyriwr Safon Uwch, wobr Myfyriwr y Flwyddyn Parod Am Yrfa.

“Roeddwn i’n synnu pan glywais i ’mod i wedi ennill Gwobr Myfyriwr y Flwyddyn - roeddwn i’n meddwl, gyda thua 60 o fyfyrwyr eraill ar y rhaglen, nad oedd gen i unrhyw siawns,” meddai. “Er hynny, rydw i’n falch bod yr holl waith caled rydw i wedi’i wneud i wella fy hun eleni wedi cael ei gydnabod gan y Coleg drwy ennill y wobr yma!”

Mae Cai, sy'n bwriadu cofrestru ar gyfer Prentisiaeth Cyfreithiwr yn Llundain y flwyddyn nesaf, wedi mwynhau’r cyfleoedd sydd gan Barod am Yrfa yn CCAF i'w cynnig. Tra oedd ar y rhaglen, anogodd ei fentor, perchennog Joe Fizz Asset Finance Cyf., Wayne Evans, Cai i ysgrifennu llyfr ac mae A Beginners Guide to Python Programming: The Ultimate Guide Covering the Basic Principles of Python Programming wedi cael ei gyhoeddi bellach.

“Mae’r rhaglen Parod Am Yrfa yn ased i’r Coleg,” meddai. “Mae strwythur y rhaglen wedi’i gynllunio ar gyfer dymuniadau ac anghenion y myfyrwyr, felly gallwch chi bob amser wneud awgrym agored a gofyn llawer o gwestiynau.

“Eleni, fe wnes i gais am bron bob cyfle interniaeth a oedd ar gael a datblygu fy ngwybodaeth a fy nghyfres o sgiliau yn sylweddol.”

Gwnaeth yr interniaethau, y sesiynau a'r digwyddiadau unigryw a gynhaliwyd mewn cwmnïau a gynigiwyd i fyfyrwyr Parod Am Yrfa argraff ar y llanc 17 oed o Gaerdydd hefyd.

“Fe fyddwn i’n bendant yn argymell i unrhyw un sydd yn y Coleg ar hyn o bryd, neu'n ymuno â'r Coleg yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf, ymuno â'r rhaglen Parod Am Yrfa a rhoi cynnig arni!” meddai Cai.

Yr enillwyr eraill oedd Montana-Marie Morris-Gallimore, a enillodd Wobr LAB, enillydd Think Build Ian Edwards, Mentor y Flwyddyn Donagh Kenny a CThEM enillodd wobr Cyflogwr y Flwyddyn.

Dywedodd Mark Smith, Prif Swyddog Gweithredol Parod Am Yrfa: “Fe hoffwn i longyfarch yr holl bobl ifanc yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro am raddio o’r rhaglen Parod Am Yrfa yn ystod blwyddyn sydd wedi bod yn un anghyffredin iawn. Rydych chi wedi gwneud yn rhagorol ac mae gennych chi ddyfodol gwych i edrych ymlaen ato.

“Mae hynny i raddau helaeth oherwydd y rôl y mae’r staff a’r cydweithwyr yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro wedi’i chwarae wrth gyflwyno’r rhaglen eleni - mae wedi bod yn anhygoel.”

Dywedodd Tracy Bird, Rheolwr Parod Am Yrfa CCAF: “Mae'n anrhydedd dathlu llwyddiant ein dysgwyr Parod Am Yrfa ni ac rydw i mor falch ohonyn nhw. Fe fanteisiodd y myfyrwyr yma ar y cyfle i greu llwybr gyrfa llwyddiannus.

“Fe gefnogwyd pob un ohonyn nhw gan ddosbarthiadau meistr mentoriaid, ymweliadau â’r gweithle ac interniaethau. Mae gennym ni ran sylweddol i'w chwarae wrth alluogi pobl ifanc i gyflawni eu potensial ac i ni ddarparu gweithlu medrus.

“Gyda help ein gwirfoddolwyr a’n cefnogwyr ni rydyn ni wedi cyflawni hyn, nid yn unig cynhyrchu tîm medrus o ddysgwyr Parod Am Yrfa ond hefyd rhai llwyddiannus. Myfyrwyr Parod Am Yrfa heddiw ydi ein dyfodol ni.”