Fel Cydlynydd y Cwricwlwm Busnes, Rachel sy’n rheoli’r gwaith o drefnu a chyflwyno’r holl gyrsiau achrededig a heb eu hachredu, rhaglenni pwrpasol ac Academïau Sgiliau y mae Tîm Dysgu a Datblygu Busnes CCAF yn eu cynnig.
Gyda gwreiddiau dwfn yn y sector Addysg, cydnabu Rachel fod ei sgiliau, cryfderau a diddordebau yn cyd-fynd yn well y tu ôl i lenni’r ystafell ddosbarth, ac ers hynny mae wedi cefnogi amrywiaeth o Sefydliadau Addysgol i hwyluso uwchsgilio oedolion ledled Cymru a Lloegr. Dyma ddaeth â hi i CCAF. Hyd heddiw mae Rachel yn parhau i ddefnyddio ei gwybodaeth a'i sgiliau i gefnogi CCAF gyda thwf Busnes.