Mae Steven yn Ddarlithydd Adnoddau Dynol cymwysedig MCIPD, ac yn Arweinydd CIPD o fewn CCAF. Mae’n cyflwyno cyrsiau CIPD ar lefel 5 a lefel 7, ac yn rheoli gweithrediadau ar bob lefel o’r rhaglen i sicrhau bod dysgwyr yn derbyn addysg o ansawdd uchel, ac y gallant ei chymhwyso’n effeithiol o fewn eu sefydliadau.
Mae Steven wedi gweithio mewn amrywiaeth o rolau AD strategol a datblygu arweinyddiaeth yn ystod yr 20 mlynedd diwethaf, cyn symud i'r sector academaidd. Gan fanteisio ar brofiad adnoddau dynol helaeth ac ymarferol, mae Steven wedi arwain ar greu cyrsiau academaidd newydd, ac mae'n parhau i ddatblygu a chyflwyno deunydd sy'n cefnogi twf sgiliau a gwybodaeth ymarferwyr. Mae’n angerddol am ddatblygiad unigol, ac yn treialu ystod o offer digidol i ennyn diddordeb ac ysgogi dysgwyr yn yr ystafell ddosbarth.