Mae'r cwrs AAT (Cymdeithas Technegwyr Cyfrifyddu) hwn yn gymhwyster cadw cyfrifon lefel mynediad, sy'n ddelfrydol ar gyfer unrhyw un sy'n chwilio am gyflwyniad i egwyddorion a sgiliau sylfaenol cadw cyfrifon. Cyflwynir y cwrs hyblyg hwn mewn partneriaeth â  Mindful Education, ac mae'n cyfuno dysgu ar-lein â gwersi wyneb yn wyneb yn y dosbarth.
Mae'r cwrs Lefel 2 hwn  wedi'i gyllido'n rhannol, felly mae'r gost i fyfyrwyr wedi'i gostwng. Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn yn llwyddiannus, gallech fod yn gymwys ar gyfer cwrs Lefel 3 wedi'i gyllido'n llawn. Gweler yr wybodaeth ynghylch dilyniant isod.
Bydd y cwrs byr hwn, a astudir dros bedwar mis, yn rhoi’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen arnoch i reoli cyfrifon yn effeithiol - gan gynnwys cadw cyfrifon cofnod dwbl, a dogfennau a phrosesau cysylltiedig, hyd at safon Mantolen Brawf.
Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn yn llwyddiannus, byddwch yn cael Tystysgrif Lefel 2 AAT mewn Cadw Cyfrifon. Mae'r cymhwyster AAT (Cymdeithas Technegwyr Cyfrifyddu) hwn, a gydnabyddir yn rhyngwladol, yn galluogi'r rhai sy'n gweithio ym maes cyfrifeg neu sy'n awyddus i ddilyn gyrfa yn y maes i ennill gwybodaeth, profiad ymarferol a'r ardystiad hollbwysig sydd yn aml yn ofynnol gan gyflogwyr.
Gellir defnyddio’r cymhwyster hwn fel llwybr cyflym i Ddiploma lefel 3 yr AAT mewn Cyfrifeg.
Unedau Astudio
● Cyflwyniad i gadw cyfrifon
● Egwyddorion cadw cyfrifon
Dull Astudio - Ar-lein ac Ar y Campws
Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â 
Mindful
Education i gyflwyno'r cwrs hwn drwy gyfrwng ein model hyblyg Ar-lein ac Ar y Campws.
Ar-lein, byddwch yn astudio gwersi fideo sydd wedi ennill gwobrau. Mae'r rhain ar gael ar alw, a gallwch eu gwylio ar eich ffôn, tabled neu gyfrifiadur - sy'n golygu y gallwch ddewis sut, pryd a ble rydych am astudio. Mae gwersi'n para tua 45 munud ac yn cynnwys animeiddiadau a graffeg symudol i ddod â chysyniadau yn fyw. Mae cwestiynau ymarfer , deunyddiau gwersi y gellir eu lawrlwytho ac astudiaethau achos rhyngweithiol yn helpu i gyfoethogi'r profiad dysgu ymhellach a dylai dysgwyr ddisgwyl treulio tua 4-5 awr yr wythnos yn astudio'n annibynnol ar-lein.
Ar y campws, byddwch yn elwa o gael dosbarthiadau rheolaidd gyda thiwtor coleg - heb orfod ymrwymo ifynychu sawl noswaith bob wythnos. Bydd eich tiwtor yn adolygu’r hyn rydych wedi'i ddysgu yn ystod eich gwersi ar-lein a bydd ar gael i gynnig arweiniad ynghylch cynnydd ac asesu. Bydd trafod yn rheolaidd gyda chyd-fyfyrwyr yn helpu i atgyfnerthu pwyntiau allweddol a hefyd yn darparu'r gefnogaeth a'r cymhelliant ychwanegol a geir wrth fod yn rhan o grŵp.
Ffi Cwrs: £350.00
Ffi Arholiad : £125.00
Ffi Cofrestru rhan amser: £40.00
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.