Mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (CCR) yn pweru twf diwydiant drwy Raglen Sgiliau Prifddinas-Ranbarth Caerdydd. Wedi'i hariannu'n rhannol gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU a'i chyflawni gan Goleg Caerdydd a'r Fro a rhwydwaith rhanbarthol o bartneriaid, nod y rhaglen yw sbarduno datblygiad economaidd ar draws o 10 awdurdodau lleol trwy gydweithio â grwpiau a chyflogwyr diwydiant. Gan ganolbwyntio ar nodi a datblygu sgiliau digidol, sero net a sgiliau Gweithgynhyrchu Uwch y mae galw mawr amdanynt, bydd yn datgloi potensial twf trwy fentrau hyfforddi a datblygu arloesol.

Rhaglenni Sgiliau:

Mae ein rhaglenni hyfforddi ar ffurf cyrsiau hyfforddi byr a gwersylloedd hyfforddi dwys sy’n canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau mewn sectorau twf allweddol y mae galw uchel amdanynt wedi’u tanategu gyda hyfforddiant cyflogadwyedd.

Mae cyfleoedd gwarantedig ar gyfer cyfweliadau ar ôl eu cwblhau wedi'u hymgorffori ym mhob rhaglen, gan olygu bod unigolion yn cael mynediad cyflym i leoliadau diwydiant a swyddi gwag. Sicrhau llif o ymgeiswyr sy'n barod i gael eu cyfweld ar gyfer swyddi gwag, gydag ystod o ganlyniadau ar lefelau technegol, rheolaethol ac arweinyddiaeth.

Mae'r cyrsiau wedi'u hanelu at oedolion sy'n byw ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd, gan gynnwys graddedigion, a phobl sydd am newid gyrfa a dychwelyd i yrfa. Wedi'u cynllunio i oresgyn rhwystrau a heriau, mae ffocws hefyd ar dargedu'r rhai o grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol a chymunedau sydd ar y cyrion. 

Ewch i www.cavc.ac.uk/ccrskills i weld y cyrsiau a'r gwersylloedd hyfforddi dwys diweddaraf sydd ar gael drwy Sgiliau Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.


Cyfleoedd i Gyflogwyr

Bydd cyfleoedd arweinyddiaeth meddwl a chyd-ddylunio i gyflogwyr yn allweddol i lunio ein rhaglenni. Bydd cyflogwyr hefyd yn elwa o gronfa dalentau sy’n fedrus ac yn barod ar gyfer diwydiant. Gyda'n gilydd, gadewch i ni yrru twf economaidd a ffyniant yn Ne-ddwyrain Cymru.

Buddion i gyflogwyr:

  • Cyflenwad o dalent ar gyfer eich busnes sy’n barod i weithio mewn diwydiant

  • Sicrhau fod busnesau wedi eu diogelu at y dyfodol gyda gweithlu medrus iawn

  • Arbed costau ac amser recriwtio

  • Darparu cyfleoedd rhwydweithio gyda dysgwyr a chyfleoedd i godi proffiliau busnes/swyddi gwag

  • Mae rhaglenni'n darparu hyfforddiant technoleg o ansawdd uchel, ymarferol a chyfredol


Effaith Ranbarthol

Rydym wedi ymrwymo i ddosbarthu'r effaith ar draws y Rhanbarth, yn enwedig drwy gefnogi busnesau bach a chanolig eu maint ar draws Cymoedd y Gogledd, h.y. Awdurdodau Lleol Blaenau Gwent, Caerffili, Merthyr Tudful, Pen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf a Thorfaen.

Datblygu sgiliau ar draws sectorau y mae galw amdanynt

Clystyrau diwydiant allweddol

  • Academi Dalent Llwybr Carlam
  • MedTech

  • Seiberddiogelwch

  • Lled-ddargludyddion cyfansawdd

  • Diwydiannau Creadigol

Sgiliau Digidol

Datblygu galluoedd ar draws ystod o feysydd gan gynnwys:

  • Data ac AI (Deallusrwydd Artiffisial)

  • Y Cwmwl, Systemau a Seilwaith

  • Datblygu Meddalwedd

  • Cyfryngau Digidol a Chreadigol

  • Technolegau

  • Blockchain


Sgiliau Sero Net a Gweithgynhyrchu Uwch


  • Gweithgareddau uwchsgilio a sgiliau newydd wedi'u cynllunio i gefnogi gofynion sgiliau Sero Net a Gweithgynhyrchu Uwch.

  • Cefnogi galluoedd yn y meysydd Amgylcheddol, Cymdeithasol a Llywodraethu (ESG), Rheoli Cynaliadwyedd, Ynni, Datgarboneiddio a Seilwaith Gwyrdd.


Llwybr Carlam Fintech

Os ydych chi’n fusnes yn y sector gwasanaethau ariannol neu dechnoleg – mae gennym gyfle ar eich cyfer chi. Gallwch recriwtio ymgeisydd fel rhan o’n Hacademi Dalent Llwybr Carlam 6 mis. Wedi’i chynnal gan Cnect Wales a’i chefnogi gan Brifddinas-Ranbarth Caerdydd a Choleg Caerdydd a’r Fro, bydd yr Academi yn cynnwys consortiwm o gyflogwyr wedi’u lleoli yn ne ddwyrain Cymru, a fydd yn cynnig cyfle unigryw i 30 o ymgeiswyr uchelgeisiol sicrhau contract 12 mis. Am fwy o wybodaeth, e-bostiwch: caroline@cnectwales.uk