Gall sicrhau cydbwysedd cywir rhwng cyfrifoldebau gwaith gyda gofynion bywyd bob dydd fod yn her. Bydd y cwrs undydd hwn yn helpu i ddatblygu eich sgiliau wrth reoli a chydbwyso eich llwyth gwaith.
Diddordeb? Agorwch yr isdeitl isod am ragor o wybodaeth cyn i chi gyflwyno eich cais!
Mae'r cwrs hwn yn cael ei ddarparu ar y safle yn ein Campws Canol y Ddinas rhwng 9.30am - 12.30pm.
Mae rheoli eich blaenoriaethau a chynnal ffordd o feddwl gadarnhaol yn hanfodol ar gyfer lles a bydd yn eich cefnogi wrth lwyddo yn eich gyrfa.
Bydd y gweithdy hwn yn eich helpu i asesu pa ran o'ch bywyd sy'n cael y traweffaith fwyaf ar y cydbwysedd hwnnw a bydd yn archwilio rhai strategaethau i'ch cefnogi chi i gyflawni'r cydbwysedd sefydlog rydych yn ei ddymuno ei gael gan gynnwys technegau i leihau straen ac arfer myfyriol.
Ffi Cwrs: £110.00
Ffi Cofrestru rhan amser: £40.00
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.