Rydym yn byw mewn byd sy'n newid, mae’r newid o'n hamgylch ym mhob man ac mae'n digwydd ym mhob gweithle; mae arloesi yn gyrru newid, felly mae'n rhaid i ni fod yn gallu rheoli a derbyn newid yn ein bywyd gwaith. Bwriad y cwrs hwn yw codi ymwybyddiaeth ynghylch pwysigrwydd newid ac arloesi, ac mae'n darparu arfau i reoli newid yn y gweithle.
Diddordeb? Agorwch ar yr isdeitl isod am ragor o wybodaeth cyn i chi ymgeisio!
Mae'r cwrs hwn yn cael ei ddarparu wyneb-yn-wyneb yn ein Campws Canol y Ddinas.
Yn y sesiwn hyfforddi yma, byddwn yn trafod:
Deddf Cydraddoldeb 2010
Goblygiadau i'r gweithle
Trafodaethau ymarferol a diogel o amgylch rhai o'r prif nodweddion gwarchodedig.
Ffi Cofrestru rhan amser: £40.00
Ffi Cwrs: £110.00
Mae'n rhaid talu Ffïoedd y Cwrs cyn ymrestru. Mae'n ofynnol eich bod yn:
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.