Rheoli Gweithio Hybrid

L2 Lefel 2
Rhan Amser
Cysylltwch â ni i gael dyddiadau.
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Ynghylch y cwrs hwn

Ydych chi'n rheoli neu'n ystyried rheoli tîm hybrid? Bydd y cwrs undydd hwn yn eich helpu i archwilio'r normal newydd o weithio hybrid a darparu strategaethau ar sut i addasu ar ei gyfer.


Diddordeb? Agorwch yr isdeitl isod am ragor o wybodaeth cyn i chi ymgeisio! 

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Mae'r cwrs hwn yn cael ei ddarparu wyneb-yn-wyneb yn ein Campws Canol y Ddinas, o 9.30am - 4pm. 


 Yn y sesiwn hon byddwn yn archwilio ac yn trafod:

  • rôl y rheolwr sy'n gweithio o bell oddi wrth y tîm

  • sut ydych chi'n cadw eich tîm gyda'i gilydd ac yn cyflawni amcanion

  • pa addasiadau sy'n rhaid i chi eu gwneud yn ffordd rydych chi'n cyfathrebu gyda'ch tîm

  • sut ydych chi'n cwrdd ag anghenion sefydliadol, tîm ac unigol tra'n parhau i sicrhau perfformiad o safon uchel

  • beth ydych chi'n ei wneud yn dda a beth allech chi fod angen ei wella er mwyn sicrhau effeithiolrwydd tîm wrth gynnal cydbwysedd rhwng byd gwaith/cartref lle mae'n angenrheidiol


Rydym yn cydnabod bod gweithio Hybrid yn wahanol ar gyfer yr holl sefydliadau a byddwn yn tynnu ar gryfderau a'r heriau a wynebir yn seiliedig ar brofiad ac amgylchiadau penodol mynychwyr y cwrs.

Gofynion mynediad

Mae'n rhaid talu Ffïoedd y Cwrs cyn ymrestru. Mae'n ofynnol eich bod yn:- Gallu mynychu'r diwrnod cyfan - Bodlon cymryd rhan mewn gweithgareddau rhyngweithiol. Mae'r cwrs hwn yn ddelfrydol ar gyfer unrhyw un sy'n awyddus i ddechrau eu gyrfa Rheoli, neu ei datblygu .

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

Cysylltwch â ni i gael dyddiadau.

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Rhan Amser

7 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

CS1MHW
L2

Cymhwyster

Managing Hybrid Working

Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach

7%

Erbyn 2025, rhagwelir y bydd y diwydiant hwn yn tyfu 7% ar draws Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, gan arwain at 2,500 o swyddi ychwanegol. (Lightcast 2021).

Angen gwybod

Pam dewis CAVC ar gyfer Busnes

Rydyn ni wedi ymrwymo i roi dysgu a datblygiad wrth galon pob sefydliad. Mwy o wybodaeth am sut gallwn ni gefnogi eich gyrfa a'ch busnes nawr ac yn y dyfodol.
Employer Partnerships

Partneriaethau Cyflogwyr

Rydyn ni'n ffurfio partneriaeth ac yn gweithio gyda sefydliadau i greu dull arloesol o ddysgu, gan helpu i rymuso'r gweithlu, datrys heriau busnes a chefnogi twf busnes yn y dyfodol.

Prentisiaethau

Nod ein rhaglenni prentisiaeth llwyddiannus yw cefnogi eich busnes drwy ddarparu sgiliau a chymwysterau ymarferol yn y swydd i'ch cyflogeion.

Camau nesaf

Cadw eich lle

Os hoffech gadw eich lle ar y cwrs Cyflwyniad i Arwain a Rheoli, cliciwch isod

Lawrlwytho'r Canllaw Hyfforddiant

Am fwy o wybodaeth am ein holl gyrsiau, lawrlwythwch ein canllaw hyfforddiant proffesiynol

Holi nawr

Am fwy o wybodaeth am ein cyrsiau Arwain a Rheoli a sut gallwn gefnogi eich gyrfa a'ch busnes, cysylltwch â ni heddiw

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Campws Canol y Ddinas,

Heol Dumballs,

Caerdydd,

CF10 5FE