Ydych chi'n awyddus i gyflawni eich potensial yn llawn neu ennill sgiliau newydd? Bydd y cwrs undydd hwn yn eich helpu chi i fuddsoddi yn eich datblygiad proffesiynol a chanolbwyntio ar yr hyn rydych chi ei angen ei wneud i fod yn fwy cynhyrchiol.
Diddordeb? Agorwch yr isdeitl isod am ragor o wybodaeth cyn i chi ymgeisio!
Mae'r cwrs hwn yn cael ei ddarparu wyneb-yn-wyneb yn ein Campws Canol y Ddinas, o 9.30am - 4pm.
Byddwn yn mynd i'r afael â:
Deall a Datblygu eich hun
Eich taith datblygiad proffesiynol hyd yma
Lle’r ydych chi nawr - eich cryfderau a'ch adnoddau
Eich nodau a'ch dyheadau, a sut i gyrraedd yno
Cefnogi eraill a Meithrin perthnasoedd
Ffi Cofrestru rhan amser: £40.00
Ffi Cwrs: £110.00
Mae'n rhaid talu Ffïoedd y Cwrs cyn ymrestru. Mae'n ofynnol eich bod yn:- Gallu mynychu'r diwrnod cyfan•Bodlon cymryd rhan mewn gweithgareddau rhyngweithiol
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.