Mae Ymarfer Adfyfyriol yn allweddol i ddysgu a llwyddiant parhaus. Bydd y cwrs undydd hwn yn rhoi’r sgiliau i chi reoli eich taith ddatblygu eich hun.
Diddordeb? Agorwch yr isdeitl isod am ragor o wybodaeth cyn i chi ymgeisio!
Mae'r cwrs hwn yn cael ei ddarparu wyneb-yn-wyneb yn ein Campws Canol y Ddinas, o 9.30am - 4pm.
Mae ymarfer adfyfyriol yn bersonol iawn a bydd pobl wahanol yn ei ddefnyddio mewn ffyrdd gwahanol. Mae'n bwysig cofio nad oes ffordd gywir nac anghywir o fyfyrio. Fodd bynnag, gall fod yn erfyn defnyddiol wrth fyfyrio ar sefyllfa, ymgeisio am swyddi, fel rhan o gymhwyster proffesiynol neu yn syml fel ffordd o feddwl ynghylch eich rôl.
Bwriad y sesiwn hon yw eich helpu i ddeall:
Beth yw ymarfer myfyriol a sut i ddefnyddio'r arfer hon.
Buddion ymarfer adfyfyriol
Y modelau sydd wedi eu profi i gynorthwyo eich dysgu a'ch datblygiad
Sut allwch chi ymgorffori hyn yn rhan o'ch bywyd gwaith o ddydd i ddydd.
Ffi Cofrestru rhan amser: £40.00
Ffi Cwrs: £110.00
Mae'n rhaid talu Ffïoedd y Cwrs cyn ymrestru. Mae'n ofynnol eich bod yn:- Gallu mynychu'r diwrnod cyfan•Bodlon cymryd rhan mewn gweithgareddau rhyngweithiol
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.