Mae’r Diploma Cyswllt Rheoli Pobl Lefel 5 yma yn ddelfrydol ar gyfer uwch ymarferwyr pobl cyfredol a rhai sy’n anelu i fod yn uwch ymarferwyr pobl.
Mae ein carfan ar-lein newydd yn galluogi i chi ddysgu mewn ffordd hyblyg sy’n gallu cyd-fynd gyda’ch ymrwymiadau personol!
Astudiwch drwy blatfform dysgu ar-lein Mindful Education sy’n cynnwys tiwtorialau byw a mynediad dethol at fideos, cwestiynau ymarfer, deunydd y gellir ei lawrlwytho ac astudiaethau achos rhyngweithiol sydd wedi’u cynllunio er mwyn eich helpu chi i adeiladu dealltwriaeth fwy trylwyr o ddeunyddiau CIPD Lefel 5.
Ochr yn ochr â hyn, byddwch yn mynychu tiwtorialau byw rheolaidd gyda darlithydd CIPD CCAF a fydd yn hwyluso trafodaethau grŵp er mwyn gwella eich gwybodaeth a’ch dealltwriaeth o bynciau AD er mwyn atgyfnerthu’r dysgu.
Cliciwch ar yr isdeitlau isod am ragor o wybodaeth!
Mae’r gwrs yma’n cael ei ddarparu ar-lein drwy gymysgedd o Hunan-astudio a thiwtorialau byw 2 awr bob yn ail dydd Mawrth.
Mae’r cymhwyster ei hun wedi’i adeiladu o amgylch y Map Proffesiwn CIPD sy’n gosod y meincnod rhyngwladol ar gyfer gweithwyr proffesiynol pobl, gan gyfuno cyfres o werthoedd craidd, gwybodaeth ac ymddygiadau sy’n arwain gweithwyr proffesiynol pobl wrth iddynt wneud penderfyniadau a gweithredu.
Cynnwys ac Asesiad:
Er mwyn sicrhau’r cymhwyster hwn, bydd gofyn i chi ysgrifennu a chyflwyno aseiniadau uned i derfynau amser. Mae yna 7 uned gyda’i gilydd:
3 uned orfodol
5C001 Perfformiad a diwylliant sefydliadol yn ymarferol
5C002 Ymarfer yn seiliedig ar dystiolaeth
5C003 Ymddygiadau proffesiynol a gwerthfawrogi pobl
3 uned arbenigol
5HR01 Rheoli perthynas cyflogaeth
5HR02 Rheoli Talent a chynllunio gweithlu
5HR03 Gwobrwyo ar gyfer perfformiad a chyfraniad
1 uned ychwanegol
50S01 Cyfraith Cyflogaeth Arbenigol
Aelodaeth CIPD:
Bydd pob myfyriwr angen Aelodaeth CIPD gweithredol drwy gydol cyfnod eu cymhwyster. Nid yw CCAF yn cwrdd â chostau Aelodaeth gan mai aelodaeth bersonol y mae gennych chi’r cyfle i’w dal wedi i chi gymhwyso ydynt. Byddwn yn eich gwahodd chi i gofrestru eich Aelodaeth wrth i chi gofrestru.
Ffi Arholiad : £154.00
Ffi Cofrestru: £45.00
Ffi Cwrs: £2,791.00
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Gall cwblhau Diploma Cyswllt mewn Rheoli Pobl lefel 5 yn llwyddiannus wella eich rhagolygon o ran gyrfa’n sylweddol drwy eich darparu gyda sgiliau uwch mewn rheoli ac arweinyddiaeth AD strategol. Byddwch yn ennill gwell dealltwriaeth o amrywiaeth o feysydd arbenigol AD, gan eich gwneud yn ased gwerthfawr mewn unrhyw sefydliad.