Excel Sylfaenol gyda Rhifau

L2 Lefel 2
Rhan Amser
Cysylltwch â ni i gael dyddiadau.
Ar-lein

Ynghylch y cwrs hwn

Pwrpas Hyfforddiant Excel Sylfaenol yw cyflwyno a datblygu sgiliau sylfaenol ar gyfer cofnodi a phrosesu data o fewn Microsoft Excel.

Diddordeb? Agorwch yr is-bennawd isod i gael rhagor o wybodaeth cyn i chi wneud cais!  

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Cyflwynir y cwrs hwn ar-lein trwy Microsoft Teams rhwng 9.30am a 1pm. 

Yn y sesiwn hon, gallwn roi sylw i’r canlynol:

  • Newydd; Agor; Cadw; Cadw fel
  • Tabiau dewislen
  • Celloedd; Rhesi; Colofnau; Tabiau; Lliw llenwi celloedd;
  • Fformat celloedd
  • Pwyntyddion a Dolenni Llenwi
  • Testun; Trwm; Italig; Tanlinellu; Lliw testun;
  • Canol; Unioni Chwith a Dde
  • Bar Offer Mynediad Cyflym
  • Torri; Copïo; Gludo; Adnodd snipio; Gwirio sillafu
  • Rheoli gweddau; Normal; Toriad tudalen; Rhewi cwareli; Hollti cwareli; Dangos bar fformiwla, Llinellau grid a Phenawdau
  • Cynllun a gogwydd tudalen; Rhan sy’n argraffu; Rhagolwg argraffu; Gosodiad tudalen; Penynnau a Throedynnau

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

Cysylltwch â ni i gael dyddiadau.

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Rhan Amser

2.5 awr yr wythnos

Lleoliad

Ar-lein
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

CSVEFB
L2

Cymhwyster

Excel for Beginners

Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach

7%

Erbyn 2025, rhagwelir y bydd y diwydiant hwn yn tyfu 7% ar draws Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, gan arwain at 2,500 o swyddi ychwanegol. (Lightcast 2021).