Ydych chi erioed wedi cael eich hun mewn sefyllfa lle rydych angen cynnal sgwrs anodd a'ch bod yn teimlo nad oes gennych chi'r arfau cywir i wneud hynny? Bydd y cwrs undydd hwn yn rhoi’r sgiliau i chi reoli sgyrsiau yn y dyfodol yn hyderus.
Diddordeb? Agorwch yr isdeitl isod am ragor o wybodaeth cyn i chi gyflwyno eich cais!
Mae'r cwrs hwn yn cael ei ddarparu wyneb-yn-wyneb yn ein Campws Canol y Ddinas o 1.30pm - 5pm.
Ffi Cofrestru rhan amser: £40.00
Ffi Cwrs: £110.00
Mae'n rhaid talu Ffïoedd y Cwrs cyn ymrestru. Mae'n ofynnol eich bod yn:
- Gallu mynychu'r diwrnod cyfan
- Bodlon cymryd rhan mewn gweithgareddau rhyngweithiol.
Mae'r cwrs hwn yn ddelfrydol ar gyfer unrhyw un sy'n awyddus i ddechrau eu gyrfa Rheoli, neu ei datblygu .
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.