“Pobl yw'r crewyr gwerth sefydliadol mwyaf, felly mae rheoli eu perfformiad yn effeithiol yn hanfodol er mwyn llwyddo” - CIPD, 2022.
Mae rheoli perfformiad yn sgil allweddol i bawb yn y sefydliad ei ddeall a’i gynnal; p’un a ydych yn rheoli eich perfformiad eich hun, yn rheolwr llinell yn cefnogi ei dîm i berfformio hyd gorau ei allu neu’n gyfarwyddwr yn grymuso’r sefydliad i ymdrechu a ffynnu. Ni waeth beth, mae pawb ohonom yn gyfrifol am reoli perfformiad.
Diddordeb? Agorwch ar yr isdeitl isod am ragor o wybodaeth cyn i chi ymgeisio!
Mae'r cwrs hwn yn cael ei ddarparu wyneb-yn-wyneb yn ein Campws Canol y Ddinas, o 9.30am - 4pm.
Bydd y sesiwn hon yn:
Deall pwysigrwydd rheoli perfformiad
Y buddion y byddwch yn eu hennill o reoli eich perfformiad
Defnyddio offer a thechnegau i wneud y gorau o’ch perfformiad yn eich rôl.
Ffi Cwrs: £110.00
Ffi Cofrestru rhan amser: £40.00
Mae'n rhaid i Ffïoedd y Cwrs gael eu talu cyn cofrestru. Unwaith y bydd eich cais wedi dod i law, anfonir dolen atoch ar sut i brosesu eich taliad. Mae'n rhaid i chi:
Mae'r cwrs hwn yn ddelfrydol i unrhywun sy'n awyddus i ddechrau eu gyrfa Reoli neu symud eu gyrfa Reoli yn ei blaen.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.