Cyflwyniad i Reoli Perfformiad

L2 Lefel 2
Rhan Amser
Cysylltwch â ni i gael dyddiadau.
Ar-lein

Ynghylch y cwrs hwn

Mae rheoli perfformiad yn sgìl hanfodol y mae’n bwysig i bawb yn y sefydliad ei ddeall a’i roi ar waith; pa un a ydych yn rheoli eich perfformiad eich hun, yn rheolwr llinell sy’n cynorthwyo aelodau’r tîm i berfformio ar eu gorau, neu’n gyfarwyddwr sy’n grymuso’r sefydliad i fynd amdani a llwyddo. Bydd y cwrs rhithwir hwn yn eich cyflwyno i sgiliau hollbwysig sy’n angenrheidiol i reoli perfformiad yn effeithiol.

Diddordeb?  Agorwch yr is-benawdau isod i gael rhagor o wybodaeth cyn ymgeisio!

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Cyflwynir y cwrs hwn ar-lein dros Microsoft Teams, 9.30am – 1pm.

Yn y sesiwn hon, byddwn yn ymdrin â’r canlynol:

  • Beth yw Rheoli Perfformiad?
  • Dulliau effeithiol o fesur gwahanol lefelau o reoli perfformiad
  • Technegau i wella perfformiad unigolion
  • Adolygu Perfformiad Gweithwyr
  • Pennu disgwyliadau clir
  • Technegau ar gyfer rheoli aelodau o’r tîm sy’n tanberfformio a thechnegau ar gyfer cyfathrebu gyda nhw

Ffi'r cwrs fesul blwyddyn

Ffi Cofrestru rhan amser: £40.00

Ffi Cwrs: £10.00

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

Cysylltwch â ni i gael dyddiadau.

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Rhan Amser

2.5 awr yr wythnos

Lleoliad

Ar-lein
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

CSVIPM
L2

Cymhwyster

Introduction to Performance Management

Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach

7%

Erbyn 2025, rhagwelir y bydd y diwydiant hwn yn tyfu 7% ar draws Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, gan arwain at 2,500 o swyddi ychwanegol. (Lightcast 2021).