Eich effeithiolrwydd personol yw eich gallu i wneud y gorau o’ch adnoddau personol er mwyn datblygu a chyflawni eich amcanion personol. Bydd y cwrs undydd hwn yn cefnogi eich twf personol, eich effeithiolrwydd a’ch dylanwad yn y gweithle!
Diddordeb? Agorwch ar yr isdeitl isod am ragor o wybodaeth cyn i chi ymgeisio!
Mae'r cwrs hwn yn cael ei ddarparu wyneb-yn-wyneb yn ein Campws Canol y Ddinas.
Yn ystod y cwrs hwn, byddwn yn:
Bydd y sesiwn yn eich galluogi i wneud twf personol yn flaenoriaeth ac yn eich helpu i ddeall eich hun yn well i ddod yn fwy hyderus ym mhopeth a wnewch. Byddwch yn gadael y sesiwn gyda Chynllun Gweithredu Effeithiolrwydd Personol i ddechrau cymryd camau cadarnhaol ar gyfer y dyfodol.
Ffi Cofrestru rhan amser: £40.00
Ffi Cwrs: £110.00
Rhaid talu Ffioedd Cwrs cyn cofrestru. Mae'n rhaid i chi:
Mae'r cwrs hwn yn ddelfrydol ar gyfer unrhyw un sy'n dymuno dechrau neu ddatblygu eu gyrfa.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.