Mae cyflogwyr angen rheolwyr medrus sy'n datrys problemau ac yn datblygu datrysiadau. Bydd y cwrs undydd hwn yn archwilio'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer datrys problemau'n llwyddiannus fel rheolwr ac o fewn tîm.
Diddordeb? Agorwch ar yr isdeitl isod am ragor o wybodaeth cyn i chi ymgeisio!
Mae'r cwrs hwn yn cael ei ddarparu wyneb-yn-wyneb yn ein Campws Canol y Ddinas.
Yn y sesiwn hon, byddwn yn archwilio:
dull systematig o ddatrys problemau tra'n defnyddio ystod eang o dechnegau datrys problemau
Adnabod problemau cyffredin a datrysiadau yn y gweithle
Prif arfau a thechnegau datrys problemau
Sut i addasu arfau a thechnegau datrys problemau i'ch amgylchedd gwaith
Ffi Cofrestru rhan amser: £40.00
Ffi Cwrs: £110.00
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.