Hyfforddi'r Hyfforddwr

L2 Lefel 2
Rhan Amser
Cysylltwch â ni i gael dyddiadau.
Ar-lein

Ynghylch y cwrs hwn

Bydd y sesiwn rhyngweithiol Hyfforddi’r Hyfforddwr hon yn archwilio’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen er mwyn cynllunio, darparu ac asesu hyfforddi er mwyn bodloni anghenion y busnes.


Diddordeb? Agorwch yr isdeitlau isod am ragor o wybodaeth cyn i chi ymgeisio!

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Darperir y cwrs hwn ar-lein drwy Microsoft Teams o 9:30am - 1pm.


Bydd y sesiwn hynod fyfyriol hon yn: 

  • Herio eich gwybodaeth gyfredol ynglŷn â rôl a chyfrifoldebau hyfforddwr

  • Archwilio’r rôl hyfforddiant mewn sefydliad 

  • Adnabod dulliau ac arfau ymarferol sydd eu hangen er mwyn gallu darparu sesiwn ysgogol o fewn y dosbarth ac yn rhithiol  

  • Cymharu’r gwahanol ffyrdd y mae cydweithwyr yn dysgu

  • Gwerthuso effeithiolrwydd eich sesiynau hyfforddi yn effeithiol.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

Cysylltwch â ni i gael dyddiadau.

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Rhan Amser

2.5 awr yr wythnos

Lleoliad

Ar-lein
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

CSVTTT
L2

Cymhwyster

Train the Trainer