CIPD Diploma Cysylltiol mewn Rheoli Pobl

L5 Lefel 5
Rhan Amser
15 Medi 2026 — 31 Gorffennaf 2028
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Ynghylch y cwrs hwn

Mae’r Diploma Cyswllt Rheoli Pobl Lefel 5 yma yn ddelfrydol ar gyfer uwch ymarferwyr pobl cyfredol a rhai sy’n anelu i fod yn uwch ymarferwyr pobl.  

Caiff y cwrs ei astudio dros gyfnod o 18 mis a chaiff ei gyflwyno drwy sesiynau wyneb yn wyneb bob dydd Iau ar y safle yn ein Campws Canol y Ddinas o 2.30am tan 7.30pm (yn ystod y tymor yn unig).  

Mae’r cymhwyster hwn hefyd ar gael drwy ein Llwybr Prentisiaeth, sy’n cynnig y cyfle i ddysgwyr ennill profiad gwerthfawr yn y gweithle wrth astudio’r cymhwyster CIPD. 

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Cynnwys a Dull Asesu:  
I gyflawni’r cymhwyster hwn, byddwch yn gweithio drwy gyfres o aseiniadau uned a bydd gan bob un dyddiad ac amser cyflwyno penodedig.  

Bwriad yr aseiniadau hyn yw eich helpu i fagu hyder a chymhwysedd wrth ddatblygu’r wybodaeth a’r ymddygiad craidd sydd wedi’u nodi yn y Map Proffesiwn CIPD (Lefel Cyswllt). 

Byddwch yn astudio 7 uned: 

  • 5C001 - Perfformiad a Diwylliant Sefydliadol yn Ymarferol 
  • 5C002 - Ymarfer Seiliedig ar Dystiolaeth 
  • 5C003 - Ymddygiad Proffesiynol a Gwerthfawrogi Pobl
  • 5HR01 - Rheoli Cysylltiadau Cyflogaeth 
  • 5HR02 - Rheoli Talent a Chynllunio Gweithlu 
  • 5HR03 - Gwobrwyo Perfformiad a Chyfraniad
  • 5OS01 - Cyfraith Cyflogaeth Arbenigol 

 
Ar ôl i chi gwblhau eich aseiniadau, caiff yr holl ganlyniadau eu hadolygu drwy broses Gymedroli swyddogol CIPD. Mae cymedroli’n digwydd yn ystod cyfnodau penodol drwy gydol y flwyddyn, a all ymestyn yr amser mae’n ei gymryd i gael eich cadarnhad terfynol. Ar ôl i’ch canlyniadau gael eu cymeradwyo, mae CIPD ei hun yn anfon ardystiad digidol, fel arfer ymhen pedair i chwe wythnos. 

Aelodaeth CIPD: 
I astudio’r cymhwyster hwn, bydd angen Aelodaeth CIPD weithredol arnoch am gyfnod llawn y cwrs. Nid yw ffioedd aelodaeth yn cael eu cynnwys ym mhris eich cwrs gan eu bod yn bersonol i chi ac yn gallu cael eu cynnal y tu hwnt i’ch cymhwyster er mwyn parhau i gefnogi eich taith broffesiynol. Mae gwybodaeth am Ffioedd Aelodaeth CIPD i'w chael ar wefan CIPD.  

Byddwn yn eich arwain drwy’r broses cofrestru aelodaeth wrth ymrestru er mwyn i chi gael dechrau arni'n ddidrafferth. 
 
Y broses ymgeisio: 

Ar ôl cyflwyno eich cais, bydd ein tîm yn cysylltu â chi i drefnu cyfweliad Microsoft Teams o bell. Bydd y cyfarfod byr hwn gydag aelod o’r tîm CIPD yn asesu eich addasrwydd ar gyfer y cymhwyster yn unol â chanllawiau CIPD a dyma fydd yn gyfle i chi ddysgu rhagor am strwythur y cwrs. 

Addysgu ac asesu

Bydd y cwrs yn cael ei ddarparu drwy ddysgu wyneb yn wyneb, yn y dosbarth, bob wythnos. 

I ennill y cymhwyster hwn, rhaid cyflwyno aseiniadau ar gyfer pob uned.

Ffïoedd cwrs

Ffi Cwrs: £3,295.00

Gofynion mynediad

Gallwch wneud cais am y cwrs hwn os ydych chi: • Yn 19 oed neu'n hŷn • Ddim mewn addysg amser llawn ar hyn o bryd neu wedi cofrestru ar gwrs a ariennir gyda CCAF • Yn gallu darparu tystiolaeth o TGAU Saesneg (A–C) neu gymhwyster cyfatebol/uwch. Os na allwch ddarparu'r dystiolaeth hon, efallai y gofynnir i chi gwblhau tasg ysgrifenedig fer • Yn ddelfrydol, yn meddu ar Dystysgrif Sylfaen CIPD mewn Ymarfer Pobl Lefel 3 • Yn gweithio ar hyn o bryd mewn, neu â phrofiad o, rôl ymarfer pobl uwch yn arwain a rheoli pobl ac ymarfer o fewn sefydliad

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

15 Medi 2026

Dyddiad gorffen

31 Gorffennaf 2028

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Rhan Amser

6 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

CSCIPD5PM
L5

Cymhwyster

CIPD Associate Diploma in People Management
CIPD Platinum Logo

Mwy...

Beth mae ein myfyrwyr yn ei ddweud

Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach

Bydd y cymhwyster hwn yn eich darparu â’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth sy’n angenrheidiol i ddatblygu yn y maes Dysgu a Datblygu.  


Ar ôl cwblhau’r cymhwyster hwn, efallai y byddwch yn dewis parhau i astudio cymhwyster Lefel 7 CIPD. 

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Campws Canol y Ddinas,

Heol Dumballs,

Caerdydd,

CF10 5FE