CIPD Tystysgrif mewn Ymarfer Pobl

L3 Lefel 3
Rhan Amser
17 Medi 2025 — 29 Gorffennaf 2026
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
£: Mae'r cwrs hwn yn rhad ac am ddim i oedolion neu oedolion sydd yn cael budd-daliadau penodol. Os ydych chi'n gymwys, nid ydych yn talu'r 'Ffi cwrs' a restrir o dan 'Ffi cwrs flynyddol'. Gellir codi ffi gofrestru o £10-40. Bydd angen talu unrhyw ffi gofrestru broffesiynol / ffi arholiad / ffi arall a restrir. Gall cefnogaeth ariannol fod ar gael ar gyfer y costau hyn. I ddysgu mwy ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding

Ynghylch y cwrs hwn

Mae'r cymhwyster hwn yn ddelfrydol ar gyfer unrhyw un sy’n cychwyn ar yrfa mewn gweithio gyda phobl, neu ar gyfer y rhai sydd eisoes mewn rôl gefnogi ac sy’n ceisio dringo’r ysgol.

Bydd y cwrs yn cymryd 8-12 mis i’w gwblhau a bydd yn cael ei gyflwyno drwy sesiynau wyneb yn wyneb.

Yn arwain at aelodaeth Sylfaen gyda CIPD: 24 Credyd

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Yn cynnwys 4 uned sy’n cyd-fynd â gwybodaeth graidd a safonau ymddygiad y Map Proffesiwn CIPD ar Lefel Sylfaen.

  • Diwylliant busnes a newid yn ei gyd-destun
  • Egwyddorion dadansoddeg
  • Ymddygiad Craidd ar gyfer Gweithwyr Proffesiynol
  • Hanfodion pobl broffesiyno

Addysgu ac asesu

Bydd y cwrs yn cael ei gyflwyno trwy ddysgu wyneb yn wyneb yn yr ystafell ddosbarth bob wythnos.

I ennill y cymhwyster hwn, bydd angen i chi gyflwyno aseiniadau ar gyfer pob uned.

Unwaith eich bod wedi llwyddo ym mhob uned, byddwch yn derbyn Tystysgrif ddigidol ac ar bapur.

Ffïoedd cwrs

Ffi Arholiad : £105.00

Ffi Cofrestru: £45.00

Ffi Cwrs: £1,400.00

Gofynion mynediad

Rhaid ichi:

• yn ddelfrydol yn gweithio mewn rôl sy'n ymwneud ag AD ar hyn o bryd neu fod â phrofiad o weithio mewn rôl sy'n ymwneud ag Adnoddau Dynol:

• gallu darparu ardystiad o gymwysterau perthnasol e.e. TGAU neu Radd

Ar ôl gwneud cais, anfonir Holiadur Datganiad Personol atoch i'w gwblhau a'i drafod yn ddiweddarach mewn cyfweliad Rhithwir gyda Thiwtor y Cwrs a fydd yn asesu eich addasrwydd ar gyfer y lefel hon o gymhwyster CIPD yn erbyn canllawiau CIPD. Os byddwch yn llwyddiannus, byddwch yn cael cynnig i gofrestru. Unwaith y byddwch wedi cofrestru, bydd CAVC yn anfon dolen atoch i sefydlu eich Aelodaeth CIPD (os nad oes gennych un eisoes) sy'n hanfodol i gwblhau unrhyw gymhwyster CIPD. Sylwch nad yw cost y cwrs yn cynnwys Aelodaeth CIPD gan ei fod yn aelodaeth bersonol.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

17 Medi 2025

Dyddiad gorffen

29 Gorffennaf 2026

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Rhan Amser

5 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau
£: Mae'r cwrs hwn yn rhad ac am ddim i oedolion neu oedolion sydd yn cael budd-daliadau penodol. Os ydych chi'n gymwys, nid ydych yn talu'r 'Ffi cwrs' a restrir o dan 'Ffi cwrs flynyddol'. Gellir codi ffi gofrestru o £10-40. Bydd angen talu unrhyw ffi gofrestru broffesiynol / ffi arholiad / ffi arall a restrir. Gall cefnogaeth ariannol fod ar gael ar gyfer y costau hyn. I ddysgu mwy ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding

Cod y cwrs

CSCIPD3PP
L3

Cymhwyster

CIPD Certificate in People Practice
CIPD Platinum Logo

Mwy...

Fideos

Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach

Unwaith eich bod wedi gorffen, gallech symud ymlaen at gwrs CIPD Lefel 5 gyda CAVC, un ai mewn Rheoli Pobl neu Ddysgu a Datblygu Sefydliadol!

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Campws Canol y Ddinas,

Heol Dumballs,

Caerdydd,

CF10 5FE